Heddiw diolchodd staff ac aelodau o'r Cyngor yn gynnes i’w Cadeirydd sy’n ymadael â Chyngor Celfyddydau Cymru, Dr Phil George. Mynegodd pawb eu diolch diffuant am ei wasanaeth oddi ar Ebrill 2016 pan ddechreuodd gyda’r Cyngor. Daeth ei dymor Cadeirydd i ben ar 31 Mawrth 2023.

Dywedodd Kate Eden, Dirprwy Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Roedd Dr Phil George yn Gadeirydd rhagorol i Gyngor Celfyddydau Cymru yn ogystal â bod yn llysgennad ardderchog i holl sector y celfyddydau yng Nghymru. Roedd yn eiriolwr gwych dros ein cwmnïau a’n celfyddydau yn ogystal â phwysleisio'r angen i fod yn fwy amrywiol a chynhwysol.

"Bydd ei gyfraniad a'i waddol yn parhau am flynyddoedd lawer ac rydym yn ddiolchgar iawn iddo am ei waith sylweddol dros y saith mlynedd diwethaf. Mae'n gadael seiliau cadarn i'w olynydd adeiladu arnynt."

Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae Phil wedi bod yn gadeirydd gwych i’r Cyngor ac yn anogwr cadarnhaol i'n staff a byddwn ni’n gweld ei golled yn fawr iawn. Mae hefyd wedi bod yn ddiflino yn ei waith dros y celfyddydau yng Nghymru. Ni chollodd erioed gyfle i siarad am y gwaith sy'n cael ei wneud ar draws y sector celfyddydol gan y Cyngor, nac ychwaith ganmol rhinweddau sefydliadau celfyddydol ac ymarferwyr celfyddydol unigol ym mhob rhan o Gymru. Rydym yn hynod ddiolchgar am bopeth y mae wedi'i wneud dros y celfyddydau yng Nghymru ac yn dymuno'n dda iddo gan ei fod bellach yn ymadael â’r Cyngor."