Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd i helpu lleoliadau, artistiaid a chymunedau i ddeall eu hardal yn well a helpu cymunedau i ffynnu.
Y Cyngor a gomisiynodd y pecyn a Lisa Baxter o’r Profiad Busnes a’i datblygodd. Cymerodd 40 unigolyn a 3 lleoliad ran wrth ei ddatblygu gan gynnwys:
- awdurdodau lleol
- Cynghorwyr
- cymunedau
- busnesau
- cymdeithasau
- pobl ifanc
- aelodau bwrdd
- artistiaid a gweithwyr yn y sector diwylliannol
Y 3 lleoliad oedd:
- Theatr Felin-fach, Sir Gaerfyrddin
- Theatrau Rhondda Cynon Taf
- Canolfan Ucheldre, Caergybi
Ar ran y Cyngor dywedodd y Rheolwr Portffolio, Amanda Loosemore:
"Rydym ni’n credu’n gryf yng ngallu'r celfyddydau i rymuso pobl, cyfoethogi bywyd, dathlu amrywiaeth a hyrwyddo cydlyniant cymunedol fel y dywed ein Cynllun Corfforaethol, Er Budd Pawb.
"Roedd y rhaglen a ddatblygwyd gan Lisa Baxter yn gweithio gyda lleoliadau, y sector celfyddydol a chymunedau i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o'u hardal leol. Roedd hefyd yn fodd i gefnogi iechyd a lles, cydlyniant, twf, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae’n fwy perthnasol nag erioed gyda’r pandemig a’i broblemau.
"Roedd y rhaglen lwyddiannus yn herio pawb a gymerodd ran gan esgor ar syniadau newydd am ein gwaith gyda’n cymunedau. Gobeithio y caiff llawer o artistiaid a sefydliadau celfyddydol y pecyn cymorth yn ddefnyddiol gan ei addasu ar gyfer eu lleoliad, eu gwaith a'u cymuned."
Meddai Lisa Baxter:
"Nid un goeden sy’n gwneud coedwig ac mae pob coeden yn rhan o ecosystem y goedwig. Nid coed ar eu pen eu hunain ydym. Rhaid inni gyfrannu at y goedwig fwy.
"Mae cysylltu â’n cymuned yn hanfodol drwy eu gwasanaethu. Wedyn gallwn greu gwaith sydd o werth i’n cymuned. Bwriad y pecyn yw rhoi cymorth i sefydliadau celfyddydol ac artistiaid wrth ailddechrau."
Mae'r pecyn cymorth ar ein gwefan - https://arts.wales/cy/adnoddau/cynllunio-gwerth-ir-cyhoedd
Diwedd Dydd Mercher 10 Tachwedd 2021