Yn 2020/21 cafodd llawer o'r arian yma ei gyfeirio at ein cronfeydd argyfwng. Roedd £7.5 miliwn i gefnogi artistiaid unigol a sefydliadau celfyddydol ar ddechrau’r pandemig. Roeddem ni wedi dosbarthu £20.5 miliwn o gymorth brys hefyd drwy Gronfa Adfer Ddiwylliannol Llywodraeth Cymru.
Yn y flwyddyn ariannol nesaf, Ebrill 2021 hyd Fawrth 2022, rydym ni’n bwriadu dosbarthu dros £20 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i unigolion a sefydliadau celfyddydol. Bydd hyn ar gael drwy raglen dreigl gyda grantiau bach a mawr. Bydd grantiau bach yn cael eu hystyried bob chwe wythnos a bydd grantiau mawr ar gael o hyd at £150,000.
Mae rhaglenni arian y Loteri Genedlaethol yn cefnogi'r blaenoriaethau yn ein cynllun corfforaethol "Er budd pawb". Yno mae ymrwymiad i gynyddu cyfleoedd yn y Gymraeg ac i bobl Fyddar, anabl ac o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol i fwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan a gweithio ynddynt.
Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr y Cyngor:
"Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £30 miliwn ar gyfartaledd yn cael ei godi bob wythnos at brosiectau mawr a bach ledled Prydain. A ninnau’n un o ddosbarthwyr y Loteri Genedlaethol, rydym ni’n falch o allu defnyddio'r arian i ddatblygu'r celfyddydau. Ein bwriad yw rhoi hyd at £20 miliwn i gelfyddydau Cymru wrth inni ddechrau dod allan o’r pandemig.
"Yn y misoedd diwethaf rydym wedi dechrau rhyddhau arian o’r Loteri Genedlaethol i'r celfyddydau drwy ein cronfa Cysylltu a Ffynnu sy'n ariannu prosiectau cydweithio rhwng sefydliadau, cymunedau ac artistiaid.
"Rhaid i’r arian ymateb yn gyflym i’r newidiadau yng nghyfyngiadau y Llywodraeth, felly byddwn yn adolygu'r rhaglenni yn fuan. Ond ein bwriad yw rhyddhau rhagor o arian yn ystod y misoedd nesaf i ariannu artistiaid a sefydliadau wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio."
Mae rhaglenni y dyfodol yn cynnwys
- grantiau cyfalaf bach i leoliadau i dalu am newidiadau i ailagor a buddsoddi mewn mesurau cadw pellter
- arian i brosiectau celfyddydol sy'n trafod problemau iechyd a lles
- arian i sefydliadau i greu gwaith newydd ac ailadeiladu cynulleidfaoedd i leoliadau a gwyliau a chefnogi datblygu busnes i gynyddu gwytnwch sefydliadau
- arian i unigolion greu gwaith newydd, buddsoddi mewn ymchwil a datblygu a chynnal hyfforddiant a datblygiad proffesiynol
- arian i annog ysgolion i roi creadigrwydd wrth wraidd y cwricwlwm
- arian i sefydliadau ac artistiaid sy'n dod â lleisiau newydd o gymunedau sydd heb eu cyflwyno at sylw cynulleidfaoedd Cymru
- arian i gefnogi sefydliadau ac artistiaid o Gymru i weithio'n rhyngwladol
Gall y dyddiadau newid, felly ewch i’n gwefan i’w gwirio.
Cysylltu a Ffynnu – bydd rownd bresennol y gronfa ar gael tan 17 Mawrth 2021
Y Celfyddydau ac Iechyd - bydd ar agor i geisiadau ar 7 Ebrill 2021 a’r dyddiad cau fydd 28 Ebrill 2021. Bydd yr ail rownd yn agor ar 6 Hydref 2021 a’r dyddiad cau fydd 27 Hydref 2021
Creu: grantiau bach – bydd y rhaglen dreigl yn agor ym Mehefin 2021
Creu: grantiau mawr – bydd y rhaglen yn agor ar 12 Ebrill 2021 gyda dwy rownd arall yn agor ar 26 Gorffennaf 2021 a 6 Rhagfyr 2021
Cyfalaf: grantiau bach – bydd y rhaglen yn agor ar 1 Mehefin 2021 a chau ar 14 Gorffennaf 2021
Byddwn ni hefyd yn derbyn ceisiadau i’n rhaglen Camau Creadigol i sefydliadau ac unigolion a thrwy'r rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau. Bydd rhagor o arian ar gael drwy ein cronfa, Cyfleoedd Rhyngwladol a’n rhaglen, Cymru yng Nghaeredin (gyda mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill). Byddwn ni'n cyhoeddi rhagor o fanylion yn y man wrth i gyfyngiadau’r pandemig newid.
Diwedd Llun 8 Mawrth 2021