Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi rhoi croeso gwresog i ganllawiau Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw, ar berfformio ac ymarfer yn y sector gelfyddydol a chymryd rhan yn y celfyddydau perfformio.

Er bod angen parhau i fod yn ymwybodol o beryglon Cofid-19, mae’r canllawiau yn caniatáu i’r sector gymryd camau tuag at ail-afael mewn gweithgarwch, ac ar yn pryd wneud yn siŵr nad ydyn yn cyfrannu at ledaeniad yr haint.

Gan siarad prynhawn ‘ma, dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Bydd y sector gelfyddydol yng Nghymru yn falch tu hwnt o weld cyhoeddi’r canllawiau yma heddiw gan Lywodraeth Cymru ar berfformio, ymarfer a chymryd rhan yn y celfyddydau perfformio. Mae llawer o bobl yn y sector wedi cyfrannu’n gadarnhaol at eu llunio a rydym yn ddiolchgar tu hwnt iddynt oll am wneud hynny.

“Mae hon yn ddogfen bwysig sy’n esbonio pa gamu sydd angen eu gweithredu er mwyn creu mannau Cofid-19 ddiogel. Mae hwn yn gam cyntaf pwysig tuag at ail-afael mewn gweithgarwch celfyddydol ond mae’n hanfodol bod pawb yn y celfyddydau yng Nghymru yn glynu at y canllawiau. Rydym i gyd eisiau gweld y cyhoedd yn medru mwynhau a chymryd rhan mewn gweithgarwch celfyddydol unwaith eto, ond rhaid i ni wneud popeth posib i osgoi cynnydd yng nghyfradd ‘R’ yr haint. Os wnawn ni hynny bydd ein artistiaid yn medru parhau i weithio, a’n lleoliadau a’n theatrau yn medru dychwelyd unwaith eto i fod yn llefydd llawn bwrlwm a chyffro sydd mor ganolog i gymunedau led-led Cymru.”
 

Mae’r canllawiau a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru i’w gweld yma.

DIWEDD                                                                                                         16 Medi 2020