Heddiw mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn annog lleoliadau a sefydliadau celfyddydol i ymateb i arolwg ymgynghorol am gynlluniau i greu cynllun hygyrchedd drwy'r Deyrnas Unedig i gefnogi aelodau o'r gynulleidfa F/fyddar, anabl a niwroamrywiol. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion yw 10 Rhagfyr 2022.
Mae'r cynllun arfaethedig yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, yr Alban Greadigol, Cyngor Celfyddydau Lloegr a Sefydliad Ffilm Prydain. Mae'n bwriadu cefnogi ac ategu’r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gan Sefydliadau Cymorth presennol y Sector, darparwyr tocynnau a sefydliadau creadigol a diwylliannol, wrth geisio mynd i'r afael â dull anghyson a phytiog yn y dynesiad.
Mae'r arolwg, sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Celfyddydau Lloegr (sydd ar gael yn Saesneg yn unig), yn gofyn am farn ar y cynigion am sut y gallai'r cynllun weithio gan gynnwys darpariaeth ar gyfer:
- Cynllun aelodaeth digidol ar gyfer cynulleidfaoedd a sefydliadau, sy'n caniatáu i aelodau gofrestru a rhoi manylion am eu hanghenion hygyrchedd unwaith, heb orfod ailadrodd y manylion bob tro y byddan nhw'n ymweld â lleoliad newydd
- Cronfa ddata aelodaeth y gall systemau archebu tocynnau integreiddio â nhw, gan ganiatáu i aelodau nodi eu hanghenion hygyrchedd yn awtomatig wrth archebu, hwyluso dosbarthu tocynnau cydymaith a seddi hygyrch eraill
- Gwefan gyda rhestri rhyngweithiol o fannau, digwyddiadau, a pherfformiadau hygyrch
- Canolfan wybodaeth sy’n cynnwys hyfforddiant, adnoddau, ac arweiniad i sefydliadau creadigol a diwylliannol er mwyn eu cefnogi i ddatblygu profiad mwy cynhwysol i ymwelwyr anabl
- Set newydd ei datblygu o safonau yr ymarfer gorau ar gyfer y sector creadigrwydd a diwylliant sy'n ymwneud â hygyrchedd digidol, digwyddiadau a rhaglennu, gwasanaeth cwsmeriaid a mwy - meysydd lle mae ymwelwyr yn aml yn dod ar draws rhwystrau i ymgysylltu
Mae'r arolwg yn agored i bob sefydliad creadigol a diwylliannol yn y Deyrnas Unedig, gan ganolbwyntio'n arbennig ar sefydliadau â thocynnau. Y bwriad yw cael barn gan drawstoriad eang o'r sector a bydd yn para tan 10 Rhagfyr 2022. Fe'i dilynir drwy gynnal sesiynau gyda sefydliadau dethol er mwyn caniatáu mwy o archwilio i rai o'r ymatebion.
Mae'r prosiect cynllun hygyrchedd yn cael ei arwain gan Grŵp Ymgynghorol sy'n cynnwys 15 o aelodau B/byddar, anabl a niwroamrywiol o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, ac fe'i cadeirir yn annibynnol gan Sam Tatlow MBE, Partner Amrywiaeth Creadigol ITV.
Mae'r llwyfan ymchwilio a datblygu wedi cynnwys mewnbwn gwerthfawr gan grwpiau ffocws, a bydd ymgynghoriadau’n parhau drwy gydol y broses i sicrhau bod lleisiau, profiadau, ac anghenion aelodau B/byddar, anabl a niwroamrywiol o’r gynulleidfa yn rhan annatod o ddatblygiad y cynllun.
Bydd Cyngor Celfyddydau Lloegr yn gweithio ar y cyd â darparwyr tocynnau a sefydliadau creadigol a diwylliannol i sicrhau y gall unrhyw gynllun sy'n cael ei greu gael ei fabwysiadu gan gynifer o leoliadau â phosibl. Bydd ymgynghoriadau pellach sy'n canolbwyntio ar y sector o ran y cynllun yn cael eu cynnal wrth i'r prosiect ddatblygu.
Yn ogystal, bydd cydweithio pellach gyda Sefydliadau Cefnogi'r Sector i ddatblygu adnoddau hyfforddi a dysgu i sicrhau bod gan sefydliadau creadigol a diwylliannol y cyngor gorau o ran hygyrchedd.
Bydd unrhyw gynllun arfaethedig yn cael ei dreialu gyda'r sector creadigol a diwylliannol cyn i unrhyw lansiad ehangach i gynulleidfaoedd.
Gallwch gyfrannu at yr arolwg drwy glicio yma. Gan bod yr arolwg yn cael ei gynnal gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, dim ond yn Saesneg y mae'r holiadur ar gael.
DIWEDD 29 Tachwedd 2022