Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn annog sefydliadau, sydd wedi derbyn grantiau’r Loteri Genedlaethol a ddosbarthwyd ganddo, i nodi 25 mlwyddiant y Loteri Genedlaethol trwy gymryd rhan yn ymgyrch #DiolchiChi.
Heddiw, dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Rydym ni wrth ein bodd i fedru dathlu 25 mlynedd ers sefydlu’r Loteri Genedlaethol. Mae’n gyfle hanesyddol i ddathlu’r gwahaniaeth mawr a wnaeth y Loteri Genedlaethol i bobl a chymunedau drwy Gymru benbaladr. Diolch i bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, mae’r gwaith da’n parhau gyda thros £30 miliwn sy’n mynd at achosion da ar draws y DU bob wythnos. Dros y chwarter canrif ddiwethaf, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ariannu 13,813 o brosiectau ledled Cymru a dosbarthu £294 miliwn mewn grantiau yn deillio o’r Loteri Genedlaethol.
“Mae sefydliadau ledled Cymru wedi bod yn rhan bwysig o hyn oll gan wneud gwahaniaeth i bobl a lleoedd mewn cymunedau ar draws y wlad a nawr rydym ni am iddynt fod yn rhan o ddathlu’r 25 mlynedd trwy ymgyrch #DiolchiChi: bydd unrhyw un sy’n ymweld â lleoliad/prosiect sy’n derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol ac sy’n dangos tocyn y Loteri Genedlaethol yn cael cynnig arbennig.
“Eleni bydd #DiolchiChi yn digwydd rhwng 23 Tachwedd a 1 Rhagfyr ac mae #DiolchiChi yn gyfle heb ei ail i ddiolch i gefnogwyr y Loteri Genedlaethol am gyfrannu at weithgarwch celfyddydol ar draws Cymru.
“Wrth gwrs, penderfyniad y lleoliadau unigol yw penderfynu ar y cynnig fydd yn cael ei roi ond mae’n werth i gwmnïau a sefydliadau nodi eu diddordeb yn fuan drwy lenwi’r 'ffurflen cofrestru'n gynnar' trwy fynd at https://www.lotterygoodcauses.org.uk/cy/25th-birthday/thanks-to-you. Bydd cymorth ar gael wedyn oddi wrth reolwr y prosiect, Stacey Reed sy’n gweithio i Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol.
“Rwy’n mawr obeithio y bydd sefydliadau celfyddydol o bob rhan o Gymru yn ymuno yn y dathliadau eleni. Bydd yn gyfle pwysig i ddathlu effaith y Loteri Genedlaethol yng Nghymru a diolch i’r bobl sy’n prynu ei thocynnau am wneud y cyfan yn bosibl.”
Diwedd Dydd Mawrth 3 Medi 2019