Mae’r arian yn bosibl trwy haelioni chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a Chronfa Cymorth Partner Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd i ddathlu Cymru yng Nghwpan FIFA y Byd.
Mae naw prosiect amrywiol wedi cael arian a fydd yn galluogi gweithgareddau a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru.
Nod Cronfa Creu Cwpan y Byd yw cefnogi profiadau a dathliadau o safon uchel sydd â'r nod o gysylltu grwpiau cymunedol ar lawr gwlad, sefydliadau celfyddydol a thimau a chymdeithasau chwaraeon. Bydd y pwyslais ar ehangu cyfranogiad, a chefnogi prosiectau a gweithgareddau ar lawr gwlad sy'n dod â'r celfyddydau a chwaraeon yn nes at ei gilydd.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Dafydd Rhys:
"Trwy feithrin partneriaethau arbenigedd a gweledigaeth artistig ochr yn ochr ag angerdd ac egni ein sefydliadau cymunedol ar lawr gwlad, bydd y prosiectau hyn yn creu delwedd gadarnhaol a chynhwysol o Gymru. Rydym yn genedl amrywiol, oddefgar, ddwyieithog a diwylliannol.
"Mae'r sector yn wynebu gaeaf anodd, a bydd y digwyddiadau hyn yn annog pobl i gwrdd yn eu lleoliad lleol i gefnogi eu hartistiaid lleol – yn ogystal â chefnogi ein tîm cenedlaethol wrth gwrs!"
Bydd llawer o'r prosiectau yn tynnu sylw at rai o'r materion yn ymwneud â FIFA sy'n cynnal Cwpan y Byd yn Qatar, gan gynnwys llwyfannu lleisiau LHDTH+, archwilio'r rhwystrau i fenywod a chwaraeon, dathlu cyfraniad cymunedau o ffoaduriaid yng Nghymru, ac amlygu'r cysylltiad cadarnhaol rhwng chwaraeon, celf ac iechyd meddwl.
Mae Cylchdro yn brosiect gan gasgliad o artistiaid yng Nghlwb Pêl-droed Gwynedd a'r Felinheli. Gan ddefnyddio celf i archwilio profiadau menywod o bêl-droed, bydd y prosiect yn archwilio'r cyfleoedd a'r heriau i ferched yng nghyd-destun Cwpan y Byd presennol. Mae’r cysylltiad rhwng 28 diwrnod y twrnamaint a chylch y mislif hefyd yn agor trafodaeth am normaleiddio’r mislif mewn pêl-droed.
Nod FootBallroom yw "adennill hunaniaethau hyfryd o fewn estheteg Pêl-droed". Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, mae hwn yn brosiect traws-gymunedol sy'n dod â chefnogwyr pêl-droed LHDTH+ a diwylliant Ballroom at ei gilydd drwy rannu straeon, dathlu hyfrydwch a chofleidio diwylliant pêl-droed.
Bydd People Speak Up yn creu gofod pontio'r cenedlaethau i bobl Llanelli rannu straeon o 1958 ac yn ysgrifennu eu stori newydd ar gyfer 2022. Gan weithio gyda beirdd a storïwyr, bydd y prosiect yn dod â phobl ifanc o Seaside Kicks at ei gilydd, clwb pêl-droed newydd sy'n cefnogi pobl ifanc o ardaloedd difreintiedig yn Llanelli ac sy’n cefnogi'r cymunedau o Syria, yn ogystal â'r genhedlaeth hŷn o glwb Pêl-droed Llanelli.
Bydd Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yn cydweithio â Chynghrair Pêl-droed Iau yr ardal i greu murlun newydd sy'n dal y llygad gyda'r artist Ruth Jên. Yn ystod y broses byddant yn estyn allan i’r grwpiau lleol, Iechyd Meddwl Pêl-droed Cymru a Siwmperi am Byst Gôl.
Bydd hefyd ddathliadau o gelf a phêl-droed sy'n dod â'r cymunedau lleol at ei gilydd yn Nhŷ Pawb, Wrecsam, Clwb y Bont, Pontypridd, Theatr Felin-fach, Ceredigion, Clwb Pêl-droed Unedig Llanrwst a chanu annisgwyl gan yr elusen fyd-enwog Aloud.
Mae'r prosiectau hyn yn rhan o bartneriaeth ehangach Gŵyl Cymru rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, gyda dros 200 o weithgareddau'n cael eu cynnal yng Nghymru a'r byd i gefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd mewn mannau cynhwysol a chroesawgar.
Mwy o wybodaeth am Ŵyl Cymru ar gael yma.