Das Clarks - A Brief History of Difference 

Mae bod yn wahanol yn gymhleth. Gall fod yn gyffrous, poenus, parhaol, rhydd, peryglus, dros dro neu’n achos gofidio neu ddathlu. Mae'n ymwneud â chyrff ac iaith, atgofion a labeli, canfyddiadau a thybiaethau, derbyn a gwrthwynebu. Ymunwch â DAR sy’n gwiâr niwroamrywiol, chwilfrydig a chanol oed sy’n dipyn o ffan o Talking Heads, i ystyried y cwestiynau dyrys am wahaniaeth, hunaniaeth, lleoliad, labeli a pherthyn. Dyma theatr ryngweithiol sydd wedi'i gwreiddio mewn sgwrs, rhannu gwybodaeth, cwestiynu, storïau personol a pherfformio. 

 

Ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan DAR Rogers  

Cyfarwyddwyd gan Jo Fong  

Cynlluniwyd gan Becky Davies 

 

Dyddiadau: 13 – 25 Awst 

Amser: 16:15 

Lleoliad: Summerhall – hen ystafell newid y merched (Lleoliad 26) 

Hyd: 1 awr 

 

Luke Hereford - Polly & Esther 

Cabare trawswisgo ac anhrefnus sydd mor wersyll â Llangrannog. Mae wedi'i ysgrifennu a'i berfformio gan fam a merch eiconig o Gymru, sef Polly Amorous ac Esther Parade. Ymunwch â nhw i drafod cyfnod yr arddegau, dewis teulu a brandiau iogwrt braster isel sy’n dda i’ch perfeddion (ych-a-fi!) wrth iddynt ddosbarthu C**t gan y ddwy! Mae’n dathlu hunanfynegiant, cyfuniad cwîar o drawswisgo, sioeau cerdd a chabare a stori am ddod o hyd i ddewis teulu mewn man annhebygol.  

'Byddwn i'n rhoi'r chwe seren i’r sioe pe bawn i'n adolygydd!' (Polly Amorous)  

'Trawswisgo? Yng Ngŵyl Ymylol Caeredin? Sgersli bilîf!' (Esther Parade) 

 

Dyddiadau: 31 Gorffennaf a 1 Awst (rhagolygon); 2-26 Awst (ac eithrio 12 a 19 Awst) 

Amser: 19:40 

Lleoliad: Buarth Pleasance – Y Llecyn Gwyrdd (Lleoliad 33) 

Hyd: 1 awr 

 

Frankie Walker - Angry Snatch: : A Reclamation Job in 15 Rounds 

"Chwarddais, wylais, llenwodd fy nghalon, ystwythodd fy nghyhyrau" 

Darn pryfoclyd a swynol o theatr gorfforol wedi'i osod mewn ring bocsio sy’n adrodd stori am adfer a gwella ar ôl camdriniaeth gan bartneriaid. Artist unigol â phrofiad bywyd sy’n adrodd y stori mewn ffordd gydymdeimladol a deallus gan ddisgrifio effeithiau dirdynnol ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol. Mae’n symud drwy'r broses wella gan ddefnyddio dawns, y gair llafar a phaffio. Mae’n ymholiad treiddgar i waddol camdriniaeth a mewnwelediad i ddeall y bobl sy’n dod allan ar ddiwedd y broses. 

Artist perfformio amlddisgyblaethol o Gymru yw Frankie Walker sy’n perfformio’r darn dwys a grymus. Mae’r sioe wedi'i hysgrifennu a'i dyfeisio ar y cyd â Meg Fenwick a Cai Tomos ac wedi'i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. 

Mae’n trafod ymddygiad cas ond nid oes unrhyw drais i’w weld yn y sioe. 

 

Dyddiad: 16, 17, 18, 23, 24 Awst 

Amser: Amrywiol 15:00 / 18:00 / 21:00 – rhaid edrych ar y dyddiadau penodol 

Lleoliad: Clwb Paffio Port O'Leith (Lleoliad 331) 

Hyd: 1 awr 10 munud