Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr wedi dod at ei gilydd i gynnig pecyn cymorth i'r cwmni syrcas cyfoes NoFit State Circus wrth i'r cwmni wynebu heriau ariannol enfawr a'r posibilrwydd o ddiswyddiadau.

Yn dilyn trafodaethau, bydd y cwmni sydd wedi'i leoli yn Nwyrain Caerdydd ac sy'n derbyn cyllid aml-flwyddyn gan Cyngor Celfyddydau Cymru a Lloegr, yn derbyn cefnogaeth er mwyn galluogi i weithrediadau barhau, gan gynnwys teithio o ddau gynhyrchiad presennol Sabotage a Bamboo, première a theithio sioe newydd Carnage tan fis Mawrth 2027, a chadw'r tîm craidd llawn. Mae'r cyllid hefyd wedi'i gynllunio i roi amser i’r cwmni weithio gydag arbenigedd allanol i ailasesu eu modelau gweithredu a chynhyrchu yn y cyd-destun presennol.

Yn ystod y misoedd diwethaf, daeth yn amlwg bod y sefydliad mewn sefyllfa ariannol fregus, o ganlyniad i nifer o ffactorau gan gynnwys effaith chwyddiant a'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwr ar gostau gweithredu, ac effaith yr argyfwng costau byw ar fforddiadwyedd tocynnau a’r anhawster o gynnal niferoedd y gynulleidfa yn sgil hynny.

Dywedodd Tom Rack, Cyfarwyddwr Artistig NoFit State: 

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr a'r holl bobl sydd wedi dangos cefnogaeth arbennig i ni yn y cyfnod anodd yma. Mae cael y cleddyf Damoclean wedi'i dynnu o uwchben ein pennau yn rhyddhad enfawr ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â'r hyn rydyn ni'n ei wneud orau - dod â'n harddull unigryw o syrcas gyfoes i gynulleidfaoedd ledled Cymru, Lloegr a thu hwnt.

Gyda'r gefnogaeth ychwanegol hon gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr, byddwn yn gallu parhau i gyrraedd cynulleidfaoedd o dros 100,000 o bobl y flwyddyn nesaf gyda'n cynhyrchiad Pabell Fawr, ein rhaglen gymunedol, a'n sioeau teithiol awyr agored.  Fedrwn ni ddim aros i gwrdd â chi amser hynny."

Dywedodd Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae NoFit State Circus yn cyflwyno rhaglen arobryn o'r radd flaenaf sy’n cael ei fwynhau ledled Cymru a thu hwnt. Mae'n cefnogi swyddi ac yn ysbrydoli cymunedau. Dyna pam rydyn ni'n camu i mewn gyda'r pecyn hwn - i helpu NoFit State i gynnal eu teithiau, cadw staff, a gweithio gydag arbenigwyr i archwilio model hyfyw i’r dyfodol yng ngoleuni tueddiadau newydd yn y gynulleidfa a chostau’r cwmni."

Dywedodd Liz Johnson, Canolbarth Lloegr, Cyfarwyddwr Ardal Cyngor Celfyddydau Lloegr: 

"Rydym yn gwerthfawrogi gwaith NoFit State Circus ac rydym yn falch bod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gallu dod o hyd i gyllid ychwanegol i'w helpu ar yr adeg anodd yma. 

"NoFit State yw prif gwmni syrcas cyfoes graddfa fawr y Deyrnas Unedig, ac maent yn cynhyrchu cynyrchiadau teithiol proffesiynol ac amrywiaeth o brosiectau cymunedol, hyfforddiant ac addysg ar gyfer pobl o bob oedran. Edrychwn ymlaen at weld eu gwaith bywiog yn parhau i gael ei rannu mewn cymunedau ledled y Deyrnas Unedig diolch i'r gefnogaeth hanfodol yma."