Bydd y Treske Quartet pedwarawd ifanc cyffrous yn perfformio Cyngerdd Haf blynyddol Nantwen.
Y cyngerdd haf yn Nantwen yw digwyddiad cerddorol olaf y flwyddyn ar gyfer y lleoliad bychan hwn sydd wedi’i guddio yng Ngogledd Sir Benfro.
Mae Pedwarawd Treske yn cynnwys Oliver Baily, Mollie Wrafter, Abigail Hammett a Robert Wheatley a fu’n astudio yn y Royal Northern College of Music. Mae eu rhaglenni, yn cynnwys cyfuniad o’r repertoire pedwarawd clasurol a chyfansoddiadau cyfoes. Mae’r pedwarawd ar hyn o bryd yn dilyn cwrs Stiwdio Siambr RNCM yn ogystal â Stiwdio Siambr yn King’s Place. Nhw yw ‘Artistiaid Ifanc 2022’ yng Ngŵyl Gerdd a Chelfyddydau Kensington Olympia a dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r pedwarawd wedi rhoi datganiadau yn y DU a thramor, yn arbennig Gŵyl Ryedale, Gŵyl Haf Dyffryn Gwy, Gŵyl Gerdd Ryngwladol Llandeilo, Cynghrair Tramor Brenhinol a Gŵyl y Genhedlaeth Newydd yn Fflorens.
Byddant yn perfformio Pedwarawdau gan Beethoven a Smetana yn Nantwen ar y 12fed o Awst 730pm.
Sefydlwyd Cerddoriaeth yn Nantwen yn 2015 gan Daniel a’i wraig Jemma. Maent yn ymdrechu i greu lleoliad cynaliadwy a gymdeithasol ar gyfer perfformio cerddoriaeth ac addysg cerddoriaeth.
Y cyngerdd Hâf yw ein digwyddiad cerddoriaeth olaf y flwyddyn ac mae’n rhan o’r Ysgol Haf Cerddoriaeth Siambr boblogaidd sy’n denu chwaraewyr llinynnol o bob rhan o’r byd.
Mae'r tocynnau'n £23 ac mae TOCYNNAU HANNER PRIS AR GAEL I CHWARAEWYR LLINYNNOL OED YSGOL UWCHRADD.
info@nantwen.co.uk 01239 820768 neu www.nantwen.co.uk