Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein Cyngerdd Gwanyn yn y Rhath, am 3:30PM ar ddydd Sul 6ed Ebrill 2025.

Dyma ein tro cyntaf yn perfformio ym muriau hyfryd Urban Crofters, sydd yn gweithredu fel eglwys a man addoli bywiog, canolfan cymunedol a lleoliad i berfformiadau yn nghalon y Rhath yng Nghaerdydd, yn ogystal a chartref i'r Tŷ Coffi Ground Up. 

Rydym yn awyddus iawn i gyflwyno gwaith Haydn: Saith Gair Olaf Crist - gosodiad ysbrydol a throsgynnol o gerddoriaeth a rhyddiaith, wedi'i hysbrydoli gan Offeren y Pasg a chroeshoeliad Crist. 

Bydd y cyngerdd yn gweld Ceridwen yn cyflwyno'r gwaith hon mewn trefniant i bedwarawd llinynnol ac adroddwr, a rydym yn falch iawn i gydweithio gyda'r actor dawnus Kevin Trainor. 

Bydd y cyngerdd yn para tua 75 munud, heb egwyl. 

Mae tocynnau ar gael drwy TicketSource.
£12.50 Pris Llawn | £6.50 Myfyrwyr | Plant AM DDIM 

Gobeithiwn y gallwch ymuno gyda ni!