Dathliad blynyddol yw Gwobrau’r Loteri Genedlaethol o’r unigolion a’r grwpiau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau anhygoel yn eu cymunedau gyda help arian y Loteri Genedlaethol.
Enwebwyd mwy na 1,500 o bobl a phrosiectau ysbrydoledig ar gyfer Gwobrau’r Loteri Genedlaethol llynedd, a nawr mae’r chwilio yn digwydd unwaith eto ar gyfer enwebai 2022.
Bydd yr enillwyr ym mhob categori yn ennill gwobr ariannol o £5,000 ar gyfer eu sefydliad a thlws mawreddog y Loteri Genedlaethol.
Mae unrhyw un sydd wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol yn gymwys am enwebiad.
Roedd Cymru wedi serennu yng ngwobrau’r llynedd, gan gipio cyfanswm o dri acolâd. Coronwyd Katherine Hughes, gwirfoddolwraig ac Ysgrifennydd Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned (The Miners), fel enillydd y DU o fewn y categori Cymunedau ac Elusennau am ei hymdrechion gwirfoddol diysgog dros y blynyddoedd ac fel un o’r grymoedd a yrrodd yr ymgyrch i achub y tirnod hanesyddol lleol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Coronwyd Lauren Price, pencampwraig bocsio Cymru a enillodd fedal aur Olympaidd, fel Olympiad y Flwyddyn yn dilyn ei champau yn Tokyo, ac enwyd prosiect Cadwraeth a Threftadaeth Green Valley yn Abercynon, sy’n defnyddio garddio a natur fel ffordd o wella sgiliau cyflogadwyedd a lles pobl, fel Prosiect y Flwyddyn Loteri Genedlaethol Cymru 2021.
Dywedodd Louise Minchin: “Mae’n anrhydedd fawr i fod yn cefnogi Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni ac annog pobl i enwebu, gyda dim ond dyddiau yn weddill i wneud hynny.
“Rydym wedi bod trwy ryw amseroedd heriol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond nid yw hynny wedi rhwystro pobl ar draws y wlad rhag ymateb gyda gweithredoedd anhygoel o garedigrwydd.
“Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn gyfle anhygoel i gymryd cam yn ôl a dangos ein gwerthfawrogiad i’r arwyr di-glod sy’n gwneud pethau anhygoel gyda help arian y Loteri Genedlaethol.
“Maen nhw’n haeddu ein cydnabyddiaeth – ond dim os byddwch yn eu cyflwyno am wobr y gallwn ni eu dathlu, felly ewch ati i enwebu!”
Bydd Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn ceisio dathlu unigolion neilltuol o fewn y categorïau canlynol:
• Cymunedol/Elusennol
• Celfyddydau, Diwylliant a Ffilm
• Chwaraeon
• Treftadaeth
• Yr Amgylchedd
• Arwr/Arwres Ifanc (Dan 25 mlwydd oed)
Bydd categori’r Amgylchedd, sy’n ychwanegiad newydd ar gyfer 2022, yn edrych i ddathlu unigolyn sydd wedi mynd y tu hwnt i’r galw i gadw eu cymuned ar y llwybr gwyrdd.
Bydd enillwyr y categorïau hyn yn cael eu dewis gan banel beirniadu sy’n cynnwys aelodau teulu a phartneriaid y Loteri Genedlaethol.
Yn ychwanegol at hyn, mae unrhyw brosiectau sydd wedi elwa o arian y Loteri Genedlaethol yn gymwys hefyd i gystadlu o fewn categori Prosiect y Flwyddyn.
Bydd yr enwebai yn cael eu crynhoi i hyd at 16 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol, gyda phleidlais gyhoeddus ar draws y DU gyfan ym mis Medi i benderfynu’r enillydd.
I wneud eich enwebiad ar gyfer Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, anfonwch neges drydar at @LottoGoodCauses gyda’ch awgrymiadau neu lenwi ffurflen gais trwy ein gwefan www.lotterygoodcauses.org.uk/cy/awards . Rhaid derbyn ymgeision erbyn canol nos ar 1 Mehefin 2022. Dilynwch yr ymgyrch ar Trydar: @LottoGoodCauses #GwobrauLG
-DIWEDD-
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: Oswyn Hughes yn Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol trwy anfon neges e-bost at oswyn.hughes@lotterygoodcauses.org.uk