Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi llunio rhaglen gref sy’n cynnwys 10 act gerddorol ac arddangosfa o ffotograffiaeth. Mae prif raglen yr ŵyl yn cynnwys ymddangosiadau gan The Trials of Cato, NoGood Boyo, y delynores Gwen Màiri a Chôr Meibion Aber Valley. Byddant hefyd yn perfformio ym Mhafiliwn Cymru gydag Ofelia, Lowri Evans a Lee Mason, Sera, VRï, Kizzy Crawford ac, am y tro cyntaf, AVANC, Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru. Bydd cyfres o ddelweddau gan y ffotograffydd Glenn Edwards, sydd wedi ennill llu o wobrau, yn cael eu dangos yn yr arddangosfa Celf Ewro Geltaidd, yn nodi’r daith o’r gogledd i’r de ar hyd yr A470.
Dywedodd Antwn Owen-Hicks, sy’n arwain Cynrychiolaeth Cymru, ac sy’n rheolwr y prosiect a gefnogir gan Lywodraeth Cymru: "Unwaith eto, rydym yn cyflwyno rhaglen gref o artistiaid sy’n adlewyrchu’r hyder parhaus a’r datblygiad yn eich cerddoriaeth a’n diwylliant, sy’n waddol gwych i Flwyddyn Cymru 2018. Mae yna wastad ddiddordeb mewn artistiaid o Gymru ymysg cynulleidfaoedd yr Ŵyl a bydd ein rhaglen eleni yn gyfle iddynt ddarganfod cerddoriaeth newydd wych.”
Mae UNESCO wedi dynodi 2019 yn Flwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi Llywodraeth Cymru i godi proffil y Gymraeg ac ieithoedd brodorol eraill drwy uno ag UNESCO i ddiogelu a dathlu’r amrywiaeth eang o ieithoedd brodorol o amgylch y byd. Bydd ein rhaglen yn Lorient yn cynnwys artistiaid Cymraeg, yn perfformio mewn amrywiaeth o ddulliau a ffurfiau, er mwyn tynnu sylw at ein hiaith fyw, ffyniannus.
Mae Pafiliwn Cymru, yng nghanol yr Ŵyl, yn cynnig cyfle i ymwelwyr wrando ar berfformiadau cerdd drwy’r dydd tan oriau mân y bore, mwynhau cwrw Cymreig a darganfod Cymru fel cyrchfan wych i dwristiaid.
Mae Sera yn artist a gafodd ei dewis yn ddiweddar ar gyfer cynllun Gorwelion/Horizons y BBC, sy’n cefnogi ei pherfformiadau yn yr Ŵyl. Mae AVANC yn brosiect gan trac, sef asiantaeth datblygu traddodiadau gwerin Cymru, ac a fydd, hefyd, yn cefnogi perfformiadau’r band yn yr Ŵyl.
Caiff Pafiliwn Cymru ei ddylunio a’i weithredu gan y cwmni cynhyrchu Orchard o Gaerdydd, a fydd yn gwneud rhaglen awr o hyd o’r Ŵyl ar gyfer S4C.
Bydd Cymru yn cael ei chynrychioli yn Lorient gan y canlynol:
Côr Meibion Aber Valley, AVANC, Glenn Edwards, Gwen Màiri, Kizzy Crawford, Lowri Evans a Lee Mason, NoGood Boyo, Ofelia, Sera, The Trials of Cato,VRï.