Gan ddod â gweithwyr proffesiynol o’r byd gwerin, ‘roots’ a cherddoriaeth draddodiadol ynghyd, WOMEX yw uchafbwynt y calendr cerddoriaeth ryngwladol. Eleni, bydd yr ŵyl ychydig bach yn wahanol; ni fydd yn digwydd ym Mudapest bellach gan y bydd yr arddangosiadau cerddorol, y cynadleddau, y ffilmiau, y seremoni wobrwyo, y cwmnïau arddangos a ‘r cyflëoedd rhwydweithio oll yn digwydd arlein.
Ochr yn ochr â’r arddangosiadau swyddogol, rydym wrth ein boddau i allu cyflwyno tri cherddor Cymreig fel rhan o Horizons yn WOMEX digidol eleni. Wedi ei sefydlu gan Cerdd Cymru : Music Wales am y tro cyntaf yn WOMEX13 pan gynhaliwyd y digwyddiad yng Nghaerdydd, mae Horizons yn sicrhau bod talentau unigol o’r Alban, Lloegr, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a Chymru’n gallu cyrraedd marchnadoedd newydd, rhyngwladol drwy rannu gwahanol adnoddau, gwybodaeth a llwyfannau ymysg yr amrywiol genhedloedd.
Byddwn yn rhannu perfformiad gan Lisa Jên fel rhan o 9Bach, a ffilmiwyd gan Neuadd Ogwen ar gyfer ei gŵyl newydd o ieithoedd brodorol, Gŵyl Mawr y Rhai Bychain. Lisa yw prif ganwr a chyfansoddwr 9Bach, grŵp a enillodd y wobr ar gyfer yr Albwm Gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 2015, am eu halbwm ‘Tincian’. Yn ddiweddar rhyddhawyd eu trydydd albwm, ANIAN, sydd wedi derbyn canmoliaeth ar raddfa genedlaethol. Noda Lisa Jên fod ei chywaith gyda’r ‘super group’ first nation brodorol Black Arm Band yn 2012 wedi bod yn drobwynt allweddol iddi yn ei gyrfa fel cyfansoddwraig.
Bydd N’famady Kouyaté, cerddor celfydd o Guinea, yn rhannu ei wedd cyfoes ar rhythmau a chaneuon Mandingue Gorllewin Affrica. Er ei fod yn chwarae sawl offeryn gwahanol, ei brif offeryn yw’r balafon – seiloffon pren, traddodiadol y mae’n ei chwarae ar ei ben ei hun ac fel rhan o’i fand The Successors of the Mandingue. Cafodd y perfformiad, a rannwyd ar wefan Horizons yn WOMEX, ei ffilmio ar gyfer Gŵyl Ara Deg Neuadd Ogwen.
The Gentle Good sy’n cwblhau ein triawd o berfformiadau, gyda’i berfformiad byw yn Tafwyl, gŵyl sy’n dathlu iaith, celfyddyd a diwylliant Cymru yng Nghastell Caerdydd. Mae’r perfformiwr Gareth Bonello yn adnabyddus am ei felodïau hudolus a’i arddull feistrolgar ar y gitâr, gan greu caneuon gwerin bytholwyrdd a berfformir ganddo i gynulleidfaoedd dros y byd i gyd. Disgwylir i’w albwm ddiweddaraf gael ei ryddhau yn 2020 ac mae’n cynnwys cyweithiau cerddorol gydag artistiaid Casi o Meghalaya yng Ngogledd Ddwyrain India.
Yn ogystal â’r tri perfformiad arddangos, rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda Neuadd Ogwen i greu a churadu sgwrs i lansio eu gŵyl newydd sy’n dathlu ieithoedd brodorol, Gŵyl Mawr y Rhai Bychain, sydd ar y gweill ar gyfer Tymor yr Hydref 2021. Gan olynu cynhadledd Ein Llais yn y byd yn Aberystwyth y llynedd, a oedd yn rhan o Flwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO 2019, cynhelir sgwrs o’r enw Cerddoriaeth, Ieithoedd Brodorol, Argyfyngau Byd-Eang a Fi rhwng Lisa Jên (9Bach), ShoShona Kish (Digging Roots), Gareth Bonello (The Gentle Good), Brìghde Chaimbeul a Jo Frost, golygydd Songlines. Mae’r sgwrs yn edrych ymlaen at Ddegawd Ieithoedd Brodorol UNESCO 2022-2032, a fydd yn canolbwyntio o’r newydd ar hawliau dynol ac effaith cynhesu byd-eang ar ieithoedd a diwylliannau brodorol. Caiff ei gynnwys yn rhaglen Rhwydwaith Cerddoriaeth Frodorol y Byd, a fydd yn cynnal eu trydydd cyfarfod blynyddol yn WOMEX 20.
Rydym wedi cynnig bwrsariaethau i hyrwyddwyr a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant cerddoriaeth i alluogi iddynt fynychu WOMEX am sawl blwyddyn, ac rydym yn parhau i gynnig rhain eleni. Rydym yn falch o fod wedi ariannu 7 tocyn er mwyn i gyflwynwyr, hyrwyddwyr ac artistiaid gael mynediad at yr ŵyl eleni – rhai am y tro cyntaf erioed. Cofiwch gadw golwg ar ein cyfryngau cymdeithasol i weld eu henwau’n cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos.
Gallwch ddysgu rhagor am eu hanes drwy ddilyn eu profiad o feddiannu ein sianelau Instagram yn hwyrach yr wythnos hon @waicymruwales.
Er gwaethaf y fath ansicrwydd ac aflonyddwch yn ystod y misoedd diwethaf, credwn fod cysylltu gyda chyfoedion, a dysgu gan bobl eraill o wahanol ddiwylliannau dros y byd fel rhan o ddigwyddiadau megis WOMEX, yn ein clymu’n fwyfwy at y gymuned ryngwladol. Mae’r symudiad tuag at gynnal gwyliau’n ddigidol, ynghyd â gweithio’n ddigidol, wedi ein galluogi i barhau i gynnal perthnasau gwerthfawr a sgyrsiau o bwys, ac rydym wrth ein boddau i ddod â grŵp newydd o bobl ar y daith gyda ni drwy ein presenoldeb yn WOMEX eleni.