Mae Marseilles yn ddinas borthladd fywiog yn ne Ffrainc, gyda hanes yn ymestyn dros 2,600 o flynyddoedd. Yn ddiweddar, mae wedi dod yn ganolbwynt ffyniannus ar gyfer diwylliant hip-hop, sy'n cynrychioli egni rap Ffrengig. Daeth hip hop Marseilles i’r amlwg yn yr 1980au, gan adlewyrchu trafferthion a breuddwydion ei chymdogaethau aml-ethnig. Gyda naws unigryw Môr y Canoldir a’i hymwybyddiaeth gymdeithasol, mae’n parhau i ysbrydoli cenedlaethau newydd o artistiaid hip hop, gan ei gwneud yn ganolfan ddiwylliannol bwysig yn Ffrainc a thu hwnt.  

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cefnogi ymchwil a datblygiad prosiect sy'n ymwneud â phobl ifanc; cydweithrediad hip hop rhwng Caerdydd a Marseilles, gyda Jukebox Collective o Gaerdydd.  

Dyddiadau: 

14 Hydref - Jukebox Collective ym Marseilles

 

Gallwch ddarganfod mwy am Raglen Ddiwylliant Cymru yn Ffrainc 2023 yma: