Yn ymuno fel curadur gwadd, ac yn rhannu ei adlewyrchiadau o COP26, mae Marc Rees yn harneisio ymatebion artistig i'r argyfwng hinsawdd, ac yn rhoi llais i neges llesiant cenedlaethau'r dyfodol fel rhan o #PethauBychain.

Crëwr a churadur perfformiad a darnau gosod, mae Marc Rees yn creu ymatebion artistig i le a chymuned, yn ailddarganfod deunydd a'i fowldio i bortreadau cyfansawdd er mwyn i gynulleidfa ymgolli ei hun yn y profiad.

Mi fydd Marc yn rhan o gyfres 'Encampment of Eternal Hope 'Possible Dialogues' yn COP26, ac yn cyflwyno ei waith gan gynnwys y ffilm fer ISOSTAY, lle fuodd yn archwilio etifeddiaeth dynoliaeth yn Antarctica, mewn cydweithrediad â Simon Clode. Lleisiwyd gan Cerys Matthews, gallwch wylio'r ffilm ar BBC iPlayer yma.

Yn fwy ddiweddar, fe gydweithredodd Marc gyda'r artist/actifydd frodorol o Tasmania Dave Mangenner Gough, yn archwilio, dyfeisio, a chwarae gyda system, cyn creu strwythyr/cerflun/fframwaith o baletau pren - CROMEN. Esblygodd mewn i loches, cysegr, gofod o dawelwch a myfyrdod, deorydd o syniadau, trafodaeth, atgofion, sgwrs a pherformiad er mwyn ystyried, wynebu, a llywio materion y tirwedd diwylliannol cyfredol mewn ffordd dilys.

Mewn cydweithrediad â Pickle Factory Dance Foudnation yn Kolkata India, ac mewn partneriaeth â'r Eisteddfod Genedlaethol, fe esblygodd CROMEN i CRO | PAN (CROMEN Cymru a PANDAL India) - cydweithrediad sy'n archwilio gwyliau yn y ddwy wlad. Darllenwch mwy am CRO | PAN yma.
 

Menter sy'n cysylltu arweinwyr, actifyddion, artistiaid ac academyddion gyda diddordebau cyffredin sy'n berthnasol i newid a chyfiawnder hinsawdd yw 'Possible Dialogues'. Darllenwch mwy am y digwyddiad yma.
 

Pethau Bychain: Mae gwneud y pethau bychain yn gallu gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau, ar draws Cymru, i'n planed, a'n llesiant ein hun. Ymgyrch er mwyn pwysleisio negeseuon llesiant sector diwylliannol Cymru ar lwyfan byd-eang yw #PethauBychain.