Yn dilyn digwyddiad digidol 3 diwrnod yn Showcase Scotland 2022, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd Cymru yn dychwelyd fel partner rhyngwladol yn 2023, gan rannu’r flwyddyn gyda’n chwaer Geltaidd Llydaw.

Am y tro cyntaf mewn 15 mlynedd, Cymru oedd y partner rhyngwladol a oedd cael sylw eleni yn Showcase Scotland, digwyddiad arddangos nodedig i’r diwydiant cerddoriaeth sy’n rhan o ŵyl Celtic Connections. Yn 2020, denodd yr ŵyl yn Glasgow gynulleidfa fyw o 130,000 o bobl, gydag asiantau archebu ac arweinwyr diwylliannol yn eu plith.

Pontiodd rhifyn digidol Showcase Scotland a rhaglen hybrid Celtic Connections â chynulleidfaoedd yng Nghymru, yr Alban a ledled y byd eleni. Yn ystod y digwyddiad, rhannodd y Prif Weinidog Mark Drakeford neges ar bwysigrwydd cerddoriaeth a diwylliant i les Cymru yn ogystal â’r cyfle gwerthfawr i gydweithio â ffrindiau yn yr Alban ac ar draws y byd. Roedd Dawn Bowden (Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon) a Phil George (Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru) hefyd yn bresennol i rannu neges bersonol gyda dros 100 o ddirprwyon rhyngwladol. Perfformiodd 6 artist o Gymru – N’famady Kouyaté, Eve Goodman, Pedair, Cynefin, The Trials of Cato a NoGood Boyo – ar y llwyfan digidol, gan ddangos hunaniaeth Geltaidd unigryw, beiddgar ac amrywiol Cymru. Mae’r profiad o arddangos i ddirprwyon rhyngwladol wedi agor llawer o gyfleoedd i’r artistiaid, sydd eisoes yn archebu sioeau a gwyliau ar draws y byd o ganlyniad uniongyrchol i’r arddangosiad. Edrychwn ymlaen at ddilyn eu teithiau wrth i’r cyfleoedd hyn ddwyn ffrwyth.

Dywedodd Judith Musker Turner, Arweinydd Prosiect Cymru yn Showcase Scotland, “Mae bod yn bartner rhyngwladol Showcase Scotland 2022 yn Celtic Connections wedi bod yn gyfle gwych i ddangos i gynulleidfaoedd rhyngwladol pa mor amrywiol, bywiog ac arbennig yw cerddoriaeth Gymreig, ac i greu gofod i Gymru o fewn y sin gerddoriaeth Geltaidd fyd-eang. Gyda digwyddiad Spotlight Cymru Wales yn cael ei chynnal ar Ddydd Miwsig Cymru ochr yn ochr ag arddangosiadau o gerddoriaeth Gaeleg a Sgoteg, roedd y digwyddiad hefyd yn dathlu dechrau Degawd Ieithoedd Brodorol ​​y Cenhedloedd Unedig ac yn ymwneud â’r thema ar gyfer blwyddyn gyntaf y degawd sef ‘Gwrando’.”

Cyhoeddwyd Cymru fel cyd-bartner ar gyfer 2023 yn ystod seremoni gloi Showcase Scotland ar ddydd Gwener 4 Chwefror, lle diolchodd Eluned Hâf (Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru) i dimau Showcase Scotland a Celtic Connections a chroesawodd y cyfle i gydweithio â chyfeillion a chymdogion agos yn Llydaw dros y flwyddyn nesaf.

Dywedodd, “Ein bwriad o’r dechrau oedd y byddai cydweithio agosach rhwng partneriaid yng Nghymru a’r Alban a mwy o gyfleoedd i groesawu artistiaid Albanaidd i Gymru yn waddol parhaol i’n partneriaeth â Showcase Scotland yn 2022. Fodd bynnag, rydym wrth ein boddau y bydd rhannu’r llwyfan gyda Llydaw yn 2023 yn dod â chyfleoedd i ddyfnhau cysylltiadau amlochrog gyda’n cefndryd Celtaidd, ac i gydweithio â’n cyd-asiantaeth Spectacle Vivant en Bretagne.”

Gyda threftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol a rennir, mae gan Gymru lawer o gysylltiadau â Llydaw, ac mae wedi cydweithio’n aml yn y gorffennol, trwy ddiwylliant a thu hwnt. Mae partneriaethau diwylliannol hirsefydlog, megis yr un rhwng Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r Orchestre Symphonique de Bretagne, a chyfranogiad llawer o artistiaid o Gymru yn yr Ŵyl Interceltique de Lorient dros y blynyddoedd wedi’u cryfhau gan ymrwymiad a wnaed gan Lywodraethau Cymru a Llydaw i gefnogi cydweithrediadau diwylliannol cynaliadwy.

Hoffai Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ddiolch i'r holl bartneriaid o Gymru a'r Alban a gyfrannodd at lwyddiant presenoldeb Cymru yn Showcase Scotland 2022.

I ddysgu mwy am brofiad artistiaid o Gymru yn Celtic Connections, tiwniwch i mewn i BBC 2 Wales am 20:00 ar nos Sadwrn 19 Chwefror ar gyfer Cymru yn Celtic Connections wedi’i chyflwyno gan Bethan Rhiannon, a gwyliwch Gŵyl Cwlwm Celtaidd: Blwyddyn Cymru ar S4C, wedi’i chyflwyno gan Eve Goodman a Gwilym Bowen Rhys.

Mae rhaglen wych Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru o 9 Chwefror ar gael wrth ddal i fyny, a bydd Bethan Elfyn a Celtic Heartbeat gyda Frank Hennessy hefyd yn cynnwys perfformiadau o Celtic Connections dros yr wythnosau nesaf.