Lleisiau o Gymru
7 Medi 2021
6.00pm – 7.30pm BST |  7.00pm – 8.30pm CET

Fel rhan o flwyddyn Cymru yn Yr Almaen 2021 Llywodraeth Cymru, mae llond llaw o bartneriaid wedi dod at ei gilydd i ddathlu llenyddiaeth, theatr a cherddoriaeth mewn un digwyddiad arbennig.
 

Beth i ddisgwyl

Darlleniad o waith y dramodydd Gary Owen 'Crazy Gary's Mobile Disco,' gan yr actor Soheil Emanuel Boroumand o'r Almaen, ac wedi'i gyfarwyddo gan ddramaturg Jens Peters, hefyd o'r Almaen. 

Cewch ddarlleniad o'u cerddi yn y Gymraeg a'r Saesneg gan Ifor Ap Glyn (Bardd Cenedlaethol Cymru) a Mererid Hopwood (Cymrawd Rhyngwladol y Gelli 2021), gyda sesiwn cwestiwn ac ateb a thrafodaeth i'w ddilyn.

Mi fydd y cerddor dwyieithog Kizzy Crawford yn perfformio yn ystod y digwyddiad, a bydd cyfle i ail-weld y ffilm llenyddiaeth a dawns 'Aber Bach', sef ffilm tairieithog Plethu/Weave cafodd ei gynhyrchu gan Llenyddiaeth Cymru a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, gyda pherfformiadau gan Mererid Hopwood a'r dawnsiwr Elena Sgarbi.

Mae digwyddiad Lleisiau o Gymru ar gael i'w wylio am ddim trwy'r linc yma.

Mae'r digwyddiad yma'n gydweithrediad rhwng Llenyddiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a Literaturbüro Westniedersachsen, ac wedi derbyn cefnogaeth gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a British Council Cymru.