Er mwyn cydnabod rhan hanfodol y celfyddydau i ysbrydoli pobl i weithredu dros yr argyfwng hinsawdd a natur, rydym yn lansio’r cyhoeddiad Ddiwrnod Amgylchedd y Byd, 2025 sy’n codi ymwybyddiaeth ac annog diogelu'r amgylchedd.
Grug Muse sydd wedi golygu’r cyhoeddiad newydd hwn, a’r cyfranwyr yw’r Cymrodyr Manon Awst, Cheryl Beer, Eric Lesdema, Zillah Bowes, Alison Neighbour, Simmy Singh, Julia Thomas ac Iestyn Tyne. Maent yn myfyrio ar y llwybrau amrywiol y mae eu teithiau ymchwil wedi'u harwain arnynt – i safleoedd a chymunedau ledled Cymru, trwy wahanol ddiwylliannau a hanesion, ac i'w meddyliau a'u cyrff eu hunain.
Gallwch ddarllen y cyhoeddiad yma
Mae’r Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn cefnogi artistiaid i ddatblygu ymchwil creadigol i’r cysylltiad â natur a'r berthynas gymhleth rhwng pobl, natur, lle a’r hinsawdd. Mae’n bartneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth Cwm Elan a Peak Cymru.
Dywedodd Karine Décorne, Rheolwr y Rhaglen Natur Greadigol,
“Roedd y Gymrodoriaeth yn ymateb i weledigaeth y Bartneriaeth Natur Greadigol a oedd wedi’i llofnodi yn 2020 rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Ei nod oedd ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur drwy dyfu'r berthynas rhwng natur a'r celfyddydau, meithrin talent greadigol a chefnogi rhagor o bobl amrywiol i gymryd rhan yn y celfyddydau ac ymweld â natur.”
Roedd y Gymrodoriaeth wedi digwydd yn gyntaf yn 2022 mewn partneriaeth â Chanolfan y Dechnoleg Amgen â’r thema "systemau bwyd, ynni a thrafnidiaeth".
Thema’r Gymrodoriaeth y tro yma oedd "cysylltu â natur". Roedd yn cydnabod bod gan natur a'r celfyddydau fanteision iechyd a lles hysbys a bod y celfyddydau’n ffordd o gysylltu pobl â natur. Mae’r cysylltiad yna’n creu manteision cymdeithasol ac amgylcheddol ac annog pobl i weithredu dros warchod ein dyfodol.
Ynghyd ag amser ar gyfer ymchwil, roedd y Gymrodoriaeth yn cynnwys rhaglen ddatblygu a ddarparwyd gan Peak Cymru. Roedd Peak Cymru yn datblygu artistiaid drwy eu cefnogi’n unigol ac mewn tair preswylfa grŵp yn safle Stagbwll yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Benfro ac yn safle’r Ymddiriedolaeth Cwm Elan yng Nghwm Elan, Powys yng nghwmni’r partneriaid, sydd hefyd yn adfyfyrio yn y cyhoeddiad am y syniadau, profiadau a dysgu y mae’r Cymrodorion wedi eu rhannu dros y cyfnod.


