Drwy gydol 2024 rydyn ni wedi bod yn cefnogi’r wyth artist sy’n cymryd rhan yng Nghymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Cwm Elan a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r Gymrodoriaeth yn cefnogi artistiaid i ddatblygu ymchwil sy’n archwilio’r berthynas gymhleth rhwng pobl, natur, lle, a hinsawdd.   


PRESWYLFA 1 – Mawrth 2024  

Ym mis Chwefror, daethon ni at ein gilydd ar gyfer y breswylfa gyntaf un ar safle Ystagbwll yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Benfro. Fe aethon ni am dro gydag ecolegwyr, ceidwaid a churaduron, a chlywed gan holl artistiaid Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol – Manon Awst, Cheryl Beer, Zillah Bowes, Eric Lesdema, Alison Neighbour, Simmy Singh, Julia Thomas a Iestyn Tyne – wrth iddyn nhw barhau i feddwl, dychmygu, ymchwilio a chreu.  

Yn y diweddariad yma, rydyn ni’n rhannu man cychwyn pob artist gyda chi, a byddwn ni’n edrych yn fanylach ar arfer pob artist yn y misoedd i ddod.  


PRESWYLFA 2 – Mehefin 2024 

Cynhaliwyd yr ail breswylfa yng Nghwm Elan, Powys, ym mis Mehefin, lle buon ni’n archwilio’r safle ac yn dysgu am fawn ym Mhenglaneinion ac am ffermio yng nghyd-destun cadwraeth. Croesawon ni hwyluswyr gwadd i rannu eu harferion eu hunain, gan greu lle i’r criw fyfyrio ac ehangu ar eu ffrydiau gwybodaeth.  

Arweiniodd y sgwennwr Dylan Huw sesiwn ar brofiadau cyfunol o fod “rhwng” – iaith, gwaith, hunaniaeth a thu hwnt – i hybu math arall o gyfnewid arfer a meddwl.  

Rachel Solnick fu’n cynnull yr ail ddiwrnod, gan drafod Straeon Tir – eu rhai hi a rhai ein gilydd – gan sôn am hunaniaeth a gwreiddiau mewn perthynas â’r tir. Cafodd pob artist wahoddiad i wrando’n ddwfn ar natur a’r amgylchedd yng Nghwm Elan, cyn dod â gwaith creadigol unigol at ei gilydd i greu cyfanwaith cyfunol. 


PRESWYLFA 3 – Hydref 2024 

Ymhlith lliwiau hyfryd yr hydref, yr aer oer, y dail dan draed a’r tonnau’n taro, aethon ni ’nôl i Ystagbwll, Sir Benfro, ar gyfer y breswylfa olaf ddechrau mis Hydref. 

Ar ôl y sesiwn gyntaf gyda’r hwylusydd Jên Angharad am gynnal gofod diogel a dewr, dychwelodd ein ffocws ’nôl ar yr artistiaid yn y breswylfa yma, gan roi lle i bob un rannu ymchwil ac arfer gyda’i gilydd drwy sesiwn greadigol, taith gerdded neu weithgaredd, a thrafodaeth. 

  • Buon ni ar Lwybr Ymchwil Artist Cheryl Beer – Sonic Nature: Sensing the Garden of Wales  https://www.cherylbeer.com/sonic-nature.html
  • Rhannodd Eric Lesdema ei waith a’i ymchwil diweddaraf gyda ni, sydd wedi’i lywio gan drafodaeth gydag amrywiaeth o feddylwyr a chydweithwyr, gan archwilio cwestiynau am gyfoeth, llesiant, a’r dychymyg cyfunol. 
  • Aeth Julia Thomas â ni i’r Ardd Furiog ar gyfer gweithdy In my Nature a oedd yn archwilio iaith, adrodd straeon, a naratifau. 
  • Rhannodd Manon Awst https://manonawst.com ei gwaith gyda ni drwy berfformiad-cyflwyniad mae hi wedi bod yn ei ddatblygu i rannu ‘Gweld trwy’r Gors’. 
  • Rhannodd Iestyn Tyne https://www.iestyntyne.cymru ei waith diweddaraf a chynhaliodd sgwrs yn trafod ei ymagwedd ei hunan ac ymagwedd y grŵp tuag at wneud cysyniadau a chelf yn hygyrch i wahanol gynulleidfaoedd. 
  • Arweiniodd Alison Neighbour https://alisonneighbourdesign.com/about/ daith gerdded wlyb a gwyntog at y môr, gan archwilio ymylon, lle mae’r tir yn cwrdd â’r môr, y môr yn cwrdd â’r awyr, a’r dydd yn cwrdd â’r nos. 
  • Dechreuodd ein diwrnod olaf gyda Zillah Bowes yn estyn gwahoddiad i gyfnewid â natur a chofnodi hyn mewn rhyw ffordd – drwy ddarlunio neu greu marciau, cerddoriaeth, neu ysgrifennu. 
  • Aeth Simmy Singh (https://www.simmysingh.co.uk) â ni drwy’r hydref a’r gwanwyn, drwy rannu caneuon i’w cyd-ganu a rhoi eiliad i’r criw fyfyrio ar beth allwn ni ei adael i fynd, a pha hadau sydd wedi’u hau i fynd â nhw gyda nhw ar y bennod nesaf o Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol.

Mae Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn rhan o’r Rhaglen Natur Greadigol rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor y Celfyddydau. Nod y rhaglen yw meithrin y berthynas rhwng y celfyddydau a’r amgylchedd naturiol, fel rhan o ymrwymiad a rennir i wella llesiant amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r cam hwn o Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Cwm Elan, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Peak Cymru.