Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, yn chwilio am 8 artist yng Nghymru i ymgymryd â’r cyfle.

Bydd yn dod â'r artistiaid at ei gilydd i feddwl am effaith y newid yn yr hinsawdd ar bobl Cymru ar dair prif thema: Ynni, Bwyd a Chludiant.

Gall yr artistiaid weithio mewn unrhyw gelfyddyd a chânt gymorth i ddatblygu eu hymarfer. Byddant yn  herio sut mae pobl yn meddwl am yr hinsawdd gan gyrraedd cymunedau ac annog pobl i fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Mae’n agored i bawb ond hoffwn yn arbennig gael ceisiadau gan bobl o gefndiroedd na chynrychiolir yn ddigonol gan gynnwys pobl sy'n wynebu rhwystrau oherwydd eu rhywioldeb, eu hethnigrwydd, eu hanabledd a’u cefndir cymdeithasol ac economaidd.

Bydd y rhai sy’n llwyddo’n:

  • Cael grant o £25,000 am y cyfnod Mawrth 2022 hyd Fawrth 2023.
  • Cael sesiynau gyda gwyddonwyr ac arbenigwyr yn y maes.
  • Rhannu eu syniadau a’u gwaith mewn digwyddiadau cyhoeddus.

Cynhaliwn digwyddiadau ar-lein ichi gael dysgu mwy am y fenter ar 3 a 7 Chwefror 2022. Cliciwch yma er mwyn cofrestru: https://www.eventbrite.co.uk/e/cymrodoriaeth-cymrur-dyfodol-future-wales-fellowship-tickets-255815469957  

Bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi, yn cynnwys manylion ymgeisio ar Dydd Llun, 31 Ionawr 2022. https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd