Mae Beacons Cymru yn falch iawn o fod yn gweithio ochr yn ochr â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar lywio eu gwaith Ffocws Ein Dyfodol. Bydd ein pobl ifanc yn Beacons Cymru yn cyfrannu at y gwaith trwy gyfres o ddigwyddiadau a grwpiau ffocws.

Bydd y gwaith hwn yn helpu i sefydlu blaenoriaethau ar gyfer tîm Cenedlaethau’r Dyfodol o ran meysydd ffocws, a sut maent yn gweithio yn y dyfodol. Bydd yn eu helpu i wneud penderfyniadau ar y ffordd fwyaf effeithiol o ddyrannu amser ac adnoddau i gael yr effaith fwyaf ar lesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker: “Rwy’n edrych ymlaen at glywed barn y bobl ifanc y mae Beacons Cymru yn gweithio gyda. Bydd eu lleisiau’n bwysig o ran llywio fy mlaenoriaethau a helpu i greu Cymru y gallwn oll fod yn falch ohoni am genedlaethau i ddod.”

I ddysgu fwy am Ffocws Ein Dyfodol : www.futuregenerations.wales/work/our-future-focus/

Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Beacons Cymru www.beacons.cymru i gael y diweddariadau diweddaraf.