Mae’n bleser gan Beacons Cymru gyhoeddi’r bartneriaeth gymdeithasol gyda Chymdeithas yr Hyrwyddwyr Annibynnol (Association of Independent Promoters - AIP) am ei hail flwyddyn i ddarparu’r hyfforddiant ar gyfer prosiect Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc Beacons (Young Promoters Network - YPN). Bydd yr YPN yn cynnig cyfle i chwe pherson ifanc, 18-25 oed, o bob rhan o Gymru, i ddatblygu eu sgiliau fel hyrwyddwyr, cael mynediad at rwydweithiau diwydiant newydd, cymorth ariannol a chynnal eu digwyddiadau cerddoriaeth fyw eu hunain.

Mae Cymdeithas yr Hyrwyddwyr Annibynnol (AIP) yn gymdeithas fasnach nid er elw sy’n dod â hyrwyddwyr annibynnol o bob rhan o’r DU ynghyd. Eu nod yw cynrychioli, grymuso a darparu rhwydwaith cefnogi hanfodol i hyrwyddwyr.

Gyda llais torfol eu nod yw sicrhau newid cadarnhaol o fewn y sector cerddoriaeth fyw ac ehangach yn y DU, gan helpu eu haelodau unigol tra hefyd yn datblygu sîn annibynnol fywiog, iach, cynrychioliadol a chynaliadwy.

Bwriad y bartneriaeth gymdeithasol rhwng AIP a Beacons Cymru yw galluogi’r genhedlaeth nesaf o hyrwyddwyr annibynnol o bob rhan o Gymru gyda hyfforddiant gan weithwyr proffesiynol profiadol i roi’r cyfle gorau posibl iddynt greu dyfodol cynaliadwy yng Nghymru.

Dywed Anna Moulson, AIP a Melting Vinyl “Mae AIP yn croesawu dychwelyd i’w ran yn y sesiynau hyfforddi a gynhelir gan un o’n hyrwyddwyr/aelodau profiadol, er mwyn i’r genhedlaeth nesaf o hyrwyddwyr ifanc Cymru ffynnu yn y diwydiant.”

Mae Anna Moulson yn hyrwyddwr cerddoriaeth fyw lawrydd/ymgynghorydd digwyddiadau sy'n hyrwyddo o dan yr enw 'Melting Vinyl'. Bob blwyddyn mae’n llwyfannu 50 o gigs, ac yn curadu a chynhyrchu gŵyl sy’n cyrraedd cynulleidfa gyfunol o 10,000 yn Brighton a Chaint.

Sefydliad Cymru gyfan yw Beacons Cymru sy’n ceisio grymuso’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc (16-25 oed) sy’n dyheu am weithio yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.

Ein gweledigaeth yw rhoi mynediad i holl bobl ifanc Cymru at y wybodaeth, y cyfleoedd, y rhwydweithiau a’r sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant i greu gyrfaoedd cynaliadwy a modelau busnes newydd yn y diwydiant cerddoriaeth Gymreig.

Meddai Richard Samuel, Arweinydd Prosiect ar gyfer YPN: “Mae cael Cymdeithas yr Hyrwyddwyr Annibynnol yn rhan o’r bwrdd i ddarparu hyfforddiant, mewnwelediad arbenigol a throsglwyddo eu gwybodaeth i’r genhedlaeth nesaf yn gamp anhygoel i ni. Bydd yn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o hyrwyddwyr yng Nghymru yn cael y cyfle gorau posibl i dyfu’r sîn fyw yng Nghymru.”

Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Beacons Cymru yn www.beacons.cymru a chael y diweddariadau diweddaraf yn syth i'ch mewnflwch

 I ddysgu mwy am yr AIP ac i weld yr aelodau presennol yna ewch i https://www.aiporg.com/