Mae Artes Mundi, arddangosfa eilflwydd a gwobr celf gyfoes ryngwladol flaenllaw’r DU, yn falch o gyhoeddi’r rhestr fer o chwe artist gweledol cyfoes rhyngwladol a phum lleoliad partner cenedlaethol ar gyfer ei hunfed rhifyn ar ddeg, Artes Mundi 11, gyda’i bartner cyflwyno, The Bagri Foundation (AM11) yn 2025-26. 

Yr artistiaid yw: Jumana Emil Abboud (ganwyd yn Shefa’amer, yn byw a gweithio yn Llundain, y DU a Jerwsalem), Anawana Haloba (ganwyd yn Livingstone, yn byw a gweithio yn Oslo, Norwy a Livingstone, Zambia), Kameelah Janan Rasheed (ganwyd yn Nwyrain Palo Alto, yn byw a gweithio yn Brooklyn, Efrog Newydd, UDA), Sancintya Mohini Simpson (ganwyd yn Brisbane, yn byw a gweithio yn Brisbane, Awstralia), Antonio Paucar (ganwyd yn Huancayo, yn byw a gweithio rhwng Berlin, yr Almaen a Huancayo, Periw) a Sawangwongse Yawnghwe (ganwyd yng Ngwladwriaeth Shan Burma, yn byw a gweithio yn Amsterdam, yr Iseldiroedd). 

Fel llwyfan hanfodol o gyfnewidiadau diwylliannol rhwng y DU a chymunedau artistig byd-eang sy’n canolbwyntio ar archwiliad parhaus o’r ‘cyflwr dynol’, mae Artes Mundi yn dwyn ynghyd arddangosfa eilflwydd bwysig o gelf gyfoes gan artistiaid rhyngwladol dylanwadol. Mae AM11 yn parhau â’i hetifeddiaeth o gyflwyno gwaith eithriadol yng Nghymru sy’n ymgysylltu â materion dybryd ein hoes.  

Bydd gwaith gan bob artist yn ymddangos yn yr arddangosfa eilflwydd AM11 a gynhelir rhwng 17 Hydref 2025 a 22 Chwefror 2026 gydag enillydd y Wobr Artes Mundi, sydd werth £40,000 – gwobr celf gyfoes fwyaf y DU – yn cael ei gyhoeddi yn ystod y cyfnod arddangos. Yn dilyn llwyddiant AM10, am yr eildro bydd AM11 yn cael ei chyflwyno’n genedlaethol mewn sawl lleoliad ledled Cymru, gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cymryd rhan am y tro cyntaf.  

Bydd yr holl artistiaid yn cael eu cynrychioli gan waith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, rhan o Amgueddfa Cymru, gyda chyflwyniadau unigol pellach i’w gweld ledled y wlad. Y lleoliadau partner ar gyfer AM11 yw: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; MOSTYN, Llandudno; Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; a Chapter, Caerdydd.