Bydd pob artist yn cael grant gwerth £25,000 i dreulio 16 mis yn gwneud gwaith ymchwil creadigol ar thema “cysylltiad â byd natur”. Mae’n gyfle i herio’r ddealltwriaeth o’n perthynas â byd natur ac i edrych ar sut y gallwn ailgysylltu â hwnnw. Mae’n gyfle hefyd i’r artistiaid archwilio’u perthynas eu hunain â byd natur.
Yr wyth artist yw:
- Manon Awst,
- Cheryl Beer,
- Zillah Bowes,
- Eric Lesdema,
- Alison Neighbour,
- Simmy Singh,
- Julia Thomas
- Iestyn Tyne
Mae Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn rhan o’r Rhaglen Natur Greadigol rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Nod y rhaglen yw meithrin y berthynas rhwng sector y celfyddydau a sector yr amgylchedd naturiol, a hynny fel rhan o ymrwymiad ar y cyd i wella llesiant amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Eleni, mae partneriaid eraill, sef yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Cwm Elan, yn ymuno â nhw i gyflwyno thema ‘cysylltiad â byd natur’. Bydd Peak Cymru, ar y cyd â’r rheolwr celfyddydau Elen Roberts, yn cynnal rhaglen ddatblygu’r cymrodyr.
Meddai Judith Musker Turner, sydd ar hyn o bryd yn arwain gwaith Cyngor Celfyddydau Cymru ym maes y celfyddydau a chyfiawnder hinsawdd:
“Gwahoddwyd artistiaid i wneud cais i ymuno â Chymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol drwy alwad agored ym mis Awst a mis Medi 2023. Bydden ni’n hoffi diolch i bob un ohonyn nhw am eu hamser a’u diddordeb.
Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi dewis 8 o unigolion eithriadol i fod yn rhan o’r Gymrodoriaeth. Serch hynny, hoffen ni hefyd gydnabod y gofal, yr angerdd a’r ddealltwriaeth hynod a welwyd ymhlith artistiaid ac unigolion creadigol yng Nghymru wrth drafod cysylltiad pobl â byd natur a’r newid yn yr hinsawdd. Mae cryfder yr ymateb i’r cyfle hwn yn dyst i hynny. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Cwm Elan a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi ymrwymo i archwilio a chanfod cyfleoedd eraill yn ein sefydliadau a’r tu hwnt i feithrin ymarfer artistig sy’n canolbwyntio ar y themâu hyn. Wrth wneud hynny, rydyn ni’n cydnabod grym y celfyddydau i gyfrannu’n ystyrlon at fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.”
Meddai Joe Roberts o Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae cryfder ein cysylltiad â byd natur yn dylanwadu’n drwm ar sut y byddwn ni’n gweithredu wrth ymateb i fyd natur. Bydd y Cymrodoriaethau hyn yn trin a thrafod ein perthynas fel unigolion a’n perthynas ddiwylliannol â byd natur drwy archwilio creadigol. Ar y cyd â phartneriaid y prosiect, bydd Peak Cymru yn rhoi cyfle i’r Cymrodyr arbrofi, archwilio, cwestiynu a herio. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut y bydd aelodau’r grŵp newydd, cyffrous hwn yn dod â’u gwybodaeth, eu hangerdd a’u profiad ynghyd er mwyn ymateb i’r thema hon.
Mae cymuned greadigol Cymru wedi dangos unwaith eto ei bod yn ymroddedig ac yn frwd dros ysbrydoli gwell dyfodol i’n planed. Roedd cryfder y ceisiadau a ddaeth i law yn galonogol tu hwnt, a byddwn ni’n parhau i ddatblygu ein perthynas â’r sector diwylliannol er mwyn i ragor o artistiaid allu defnyddio’u lleisiau i feithrin y berthynas rhwng cymdeithas a byd natur.”