Mae Frân Wen wedi cyhoeddi'r tîm creadigol y tu ôl i Dynolwaith, ei cyd-gynhyrchiad newydd gyda Theatr y Sherman sy'n teithio Cymru mis Medi a mis Hydref eleni.

Wedi ei ’sgwennu a’i berfformio gan Leo Drayton, dyma stori hynod bersonol ac emosiynol am hunan-ddarganfod, dewrder a thrawsnewidiad fydd yn aros yn y cof ymhell ar ôl i’r llenni gau.

Mae'r tîm creadigol yn cynnwys Gethin Evans (Cyfarwyddwr), Kayley Roberts (Cyfarwyddwr Cynorthwyol), Cara Evans (Dylunio), K.J (Dylunio Goleuo), Melfed Melys (Cyfansoddi) a Sam Jones (Dylunydd Sain).

Leo Drayton (fo)
Awdur a pherfformiwr

Mae Leo yn ysgrifennwr cwiar o Gaerdydd sydd yn canolbwyntio ar ei hunaniaeth a’i brofiadau fel dyn traws yn ei waith. Dechreuodd ei yrfa fel cyd awdur y gyfres i bobl ifanc, Y Pump. Bu hefyd yn cydweithio ar y ddrama Dy Enw Marw, a gafodd ei pherfformio yn National Theatre yn Llundain, y ddrama Cymraeg gyntaf erioed i gael ei llwyfannu yno.

Yn 2022 cyrhaeddodd rownd derfynol y Roundhouse Poetry Slam. Bu Leo yn rhan o Cynrychioli Cymru 24-25 yn y Queer Emporium yng Nghaerdydd. Ysgrifennodd ffilm fer, Teth, a agorodd ŵyl ffilm Iris ac aeth ymlaen i wyliau ffilm ryngwladol BFI Flare (Llundain) a Frameline (San Fransisco). Dynolwaith yw ei ddrama gyntaf.

Gethin Evans (fo)
Cyfarwyddwr

Gethin Evans yw Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen. Mae wedi arwain ar gynyrchiadau uchelgeisiol a safle-benodol sy'n cael eu hysbrydoli gan y gymuned, gan gynnwys y drioleg OLION a'r sioe gerdd Branwen: Dadeni. Cyn ymuno â Frân Wen, cyd sefydlodd Cwmni Pluen ac mae wedi arwain ar brosiectau i Theatr y Sherman, National Theatre a National Theatre Wales.

Mae Gethin yn angerddol am waith beiddgar a chyfoes sy’n cwmpasu cynyrchiadau ar raddfa fawr, prosiectau cyfranogol, a chydweithrediadau arloesol ar draws llwyfannau traddodiadol a digidol.

Kayley Roberts (nhw)
Cyfarwyddydd Cynorthwyol

Mae Kayley Roberts (nhw/eu) yn ymarferydd creadigol llawrydd sydd yn 'sgwennu a chyfrannu i'r maes llenyddol, opera, a theatr, gan gynnwys nofel (Lladd Arth), barddoniaeth (Ffosfforws 6, O Ffrwyth y Gangen Hon), libretto (Tuag Adra), a monolog (Bloedd ar Goedd).

Cara Evans (nhw/hi)
Dylunio

Mae Cara Evans yn ddylunydd perfformiadau sy'n byw yn Llundain. Graddiodd Cara mewn Dylunio i’r Llwyfan o'r Royal Central School of Speech and Drama ac roedd yn ddarllenydd yn y Royal Court.

Mae eu gwaith diweddar yn cynnwys Feral Monster (National Theatre Wales); Sleepova (Bush Theatre); Dear Young Monster (Bristol Old Vic); The Living Newspaper (Royal Court); Ugly Sisters (New Diorama); Wish You Were Here (Gate Theatre); Get Dressed! (Unicorn); Statues (Bush Theatre); Queer Upstairs (Royal Court) a Body Show (SohoTheatre).

K.J (nhw)
Dylunio Goleuo

Mae K.J yn ddylunydd goleuo sy'n gweithio'n fyd-eang yn y meysydd Theatr, Dawns ac Opera. Maent yn aelod proffesiynol o Gymdeithas Cynhyrchu a Dylunio Goleuo ac yn raddedig o Gynllun Lumiere ALPD 20:20.

Mae eu gwaith diweddar yn cynnwys United Dances of America (Ballet Avignon); Noises Off (NWT/TBTL); Lil.Miss.Lady (Barbican/Highrise Theatre); Alice in Wonderland (Shakespeare North); The Passing of the Moment (Ballet Nacional De Cuba); Persephone (Dutch National Ballet); Der Fliegende Hollander (Persona Arts); Tender (Phosphorus Theatre); Lines (Sheffield Theatres, La Mama NYC) a Jockstrap (Barbican).

Melfed Melys (hi/nhw)
Cyfansoddi

Mae Melfed Melys yn DJ a chynhyrchydd traws sydd yn byw yng Nghaerdydd ac yn rhan o’r sîn cerddoriaeth electronig Gymraeg. Wedi eu ysbrydoli gan natur hylifol a newidiol hunaniaeth, mae cerddoriaeth Melfed yn dathlu eu trawsnewidiad parhaus drwy gerddoriaeth dawns sy'n annog llawenydd a mynegiant.

Daethant i’r amlwg yng Nghymru trwy breswyliad yng Nghlwb Ifor Bach, lle maent wedi cyd-sefydlu Pink Pony Clwb, noson i hyrwyddo artistiaid LHDTC+. Maen nhw wedi perfformio'n rheolaidd yn Cinc (noson clwb tecno hoyw yng Nghaerdydd) ac fe wnaethon nhw gloi 2024 gyda'u set DJ cyntaf yn Dalston Superstore, sefydliad LHDTC+ eiconig yn Llundain.

SAM JONES (fo)
Dylunio Sain

Mae Sam yn gyfansoddwr, dylunydd sain, peiriannydd a chynhyrchydd cerddoriaeth. Mae ei waith yn amrywio o theatr a sgrin, i gerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi ei recordio. Mae ei waith theatr a pherfformio diweddar yn cynnwys: Carreg Ateb (Frân Wen/Oriel Genedlaethol/Oriel Mostyn), Olion (Frân Wen), Popeth Ar Y Ddaear (Frân Wen), Imrie (Frân Wen/Theatr y Sherman), Iphigenia In Splott (Lyric Hammersmith), Tylwyth (Theatr Genedlaethol Cymru), FRANK (Jones Collective/NTW) a Possible (NTW).

-----------------------------

Y daith

CAERDYDD
Theatr y Sherman
26 Medi - 4 Hydref 2025
🎟️ Tocynnau

ABERYSTWYTH
Canolfan Arad Goch
7 Hydref 2025
🎟️ Tocynnau

CAERNARFON
Galeri
9 Hydref 2025
🎟️ Tocynnau

BANGOR
Pontio
10 Hydref 2025
🎟️ Tocynnau

Y BALA
Theatr Derek Williams
11 Hydref 2025
🎟️ Tocynnau

*Capsiynau Cymraeg a Saesneg ar gyfer pob perfformiad.