Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi rhaglen newydd o gynyrchiadau a phrosiectau hyd at gwanwyn 2024, yn cynnwys 8 cynhyrchiad, 3 ohonynt yn deithiau  genedlaethol. Dyma dymor cyntaf y cwmni o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Artistig newydd Steffan Donnelly ac mae’n llawn artistiaid arbennig yn dathlu’r iaith Gymraeg ac yn adrodd straeon ffres a phwysig am gymdeithas gyfoes.

Mae’r tymor yn cychwyn gyda rhaglen gyffrous o berfformiadau yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd. Bydd Theatr Gen yn cyflwyno a chefnogi 5 cynhyrchiad mewn amryw o leoliadau ar hyd y Maes. Bydd Caffi Maes B yn lwyfan i Parti Priodas - drama gomedi newydd sbon gan y dramodydd a’r bardd Gruffudd Owen am ddau o bobol sy'n ceisio goroesi diwrnod mawr rhywun arall. Dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly, dyma chwip o gomedi sy’n llawn emynau, tensiynau a dawnsio ar ben byrddau.

Bydd y cwmni hefyd yn cofleidio bwrlwm y Brifwyl gyda sioe byped i deuluoedd fydd yn crwydro’r Maes - Yr Hogyn Pren. Gyda phyped arbennig gan Theatr Byd Bychan, mae’r artistiaid Owain Gwynn, Elidir Jones a Melangell Dolma yn dod ynghyd i gyflwyno’r antur hudolus hwn. Mae Theatr Gen hefyd yn falch o weithio gydag enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2022, Sioned Erin Hughes, i gyflwyno addasiad llwyfan o ddwy fonolog dyner o’i chyfrol Rhyngom. Bydd cyfle i fwynhau’r gwaith hwn wedi’i gyfarwyddo gan Iola Ynyr yn y Babell Lên, gydag Esyllt Maelor yn cadeirio sesiwn holi ac ateb gyda’r awdur yn dilyn y perfformiad.

Yn y Cwt Cabaret, bydd Theatr Gen a Theatr Clwyd yn cydweithio ar Rwan Nawr i ddod â’r ysgrifennu Cymraeg mwyaf ffres i’r Maes dan gyfarwyddyd Rhian Blythe a Daniel Lloyd. Ar ffurf papur newydd byw, bydd 5 dramodydd – Hannah Daniel, Mali Ann Rees, Manon Steffan Ros, Llŷr Titus a Kallum Weyman – yn ysgrifennu cyfres o ddramâu byrion yn ymateb i’r byd o’u cwmpas ar gyfer noson o adloniant a phynciau llosg, yn syth o’r wasg. Mae’r cwmni hefyd yn cefnogi cyd-gynhyrchiad Frân Wen a’r Eisteddfod, Popeth ar y Ddaear, fydd yn dod ag arlwy theatr i Faes B am y tro cyntaf erioed.

Yn yr hydref, bydd y cwmni yn dod â Rhinoseros, y campwaith Ewropeaidd gan Eugène Ionesco, i lwyfannau Cymru yn yr addasiad cyntaf i’r Gymraeg gan Manon Steffan Ros, dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly. Mor berthnasol nawr ag erioed, mae’r ddrama absẃrd hon yn cyfuno hiwmor annisgwyl a thensiwn hunllefus i sylwebu ar gymdeithas, eithafiaeth a sut y gall casineb ledaenu fel feirws – wrth i drigolion pentref cyfan gael eu hudo gan drefn newydd a’u trawsnewid i mewn i rhinoserosod. Bydd y cynhyrchiad hwn ar werth yn fuan a bydd y cwmni yn rhannu newyddion am y cast a thîm creadigol talentog dros yr wythnosau nesaf.

Fel rhan o ymrwymiad y cwmni i ysbrydoli cynulleidfaoedd theatr y dyfodol, mae Theatr Gen yn gweithio gyda’r artist Krystal S. Lowe i gyflwyno sioe newydd a gwreiddiol i blant ifanc dros y gaeaf. Mae Swyn – sy’n seiliedig ar y llyfr  ‘Whimsy’ gan Krystal – yn gynhyrchiad dwyieithog mewn Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) a Chymraeg am gyfeillgarwch, natur a dathlu’r pethau sy’n gwneud bob un ohonom ni yn unigryw. Wedi’i chyfarwyddo gan Rhian Blythe, dyma antur swynol fydd yn tanio dychymyg cynulleidfaoedd ifanc trwy stori a dawns.

Yn y flwyddyn newydd, bydd Theatr Gen yn rhoi platfform i brofiadau bywyd go iawn pobl ifanc heddiw gyda chynhyrchiad Ie Ie Ie. Yn cynnwys cyfweliadau gonest gyda phobl ifanc Cymru, perfformiad bachog a chyfle i’r gynulleidfa gyfrannu, dyma ddarn o theatr pwysig sy’n codi cwestiynau hanfodol am berthnasau iach, chwant a chaniatâd. Gyda’r cyfarwyddwydd Juliette Manon wrth y llyw, mae Ie Ie Ie yn seiliedig ar y sioe ‘Yes Yes Yes’ gan y gwneuthurwyr theatr o Aoteaora/Seland Newydd, Karin McCracken ac Eleanor Bishop. Gyda’r bwriad o gyflwyno darn sydd wedi’i greu gan bobl ifanc i bobl ifanc, bydd y cwmni yn cyd-greu rhannau o’r sioe gyda phobl ifanc Cymru drwy ymweld ag ysgolion a cholegau dros y misoedd nesaf.

Ochr yn ochr â’r rhaglen uchelgeisiol hon o gynyrchiadau, mae Theatr Gen yn cyflwyno nifer o brosiectau hirdymor sy’n mynd i’r afael â materion pwysig ac heriol ein hoes. Mae Prosiect 40°C yn brosiect newydd sy’n ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Bwriad y prosiect amlhaenog hwn yw darganfod ffyrdd creadigol a gwahanol i herio’r hen ffyrdd o ymateb i drychinebau byd natur ac archwilio sut gall cyfrwng theatr byw ehangu ein dealltwriaeth o’r argyfwng hinsawdd fel rhan annatod o fywyd yng Nghymru heddiw. Bydd y prosiect yn cychwyn gyda Gwreiddioli, rhaglen breswyl i artistiaid yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen – ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru ac o dan adain yr artist arweiniol Dylan Huw – ym mis Awst.

 

Mae prosiect Ar y Dibyn yn parhau i gynnig cyfle i rai sydd wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth i ymateb i’w teimladau a’u profiadau mewn ffyrdd creadigol. Ers sefydlu’r prosiect yn 2019, mae’r artist arweiniol Iola Ynyr – ynghyd â chriw o artistiaid, cwnselwyr a chyfieithwyr sy’n cefnogi’r sesiynau – wedi gweithio gyda degau o gyfranogwyr ledled Cymru i greu darnau o waith pwerus sy’n agor llygaid. Prosiect rhwng Theatr Gen ac Iola yw hwn, mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth gan Fwrdd Cynllunio Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru. Mae’r cwmni hefyd yn dod â’r prosiect creadigol Criw Creu yn ôl yn 2024, gan weithio gyda grŵp o Droseddwyr Ifanc o Garchar y Parc ger Penybont-ar-Ogwr a chynnig cyfleoedd iddyn nhw gydweithio gydag artistiaid a pherfformwyr proffesiynol. Mae’r Clwb Drama ar y cyd â Menter Gorllewin Sir Gâr hefyd yn parhau, gyda sesiynau drama wythnosol i blant ysgol gynradd yng Nghaerfyrddin, cartref y cwmni.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, Steffan:
“Mae’n fraint i mi a’r tîm rannu’r rhaglen arbennig hon gyda chynulleidfaoedd Cymru. Mae’n dymor sy’n cynnig cyfuniad gwych o’r adnabyddus a’r annisgwyl, o’r ysgrifennu newydd gorau Cymraeg ac addasiadau o waith rhyngwladol pwysig, ac sy’n llawn straeon am berthynas unigolion a chymdeithas; am y pwysau i ffitio mewn. Ers i mi gychwyn fel Cyfarwyddwr Artistig y cwmni llynedd, mae wedi bod yn brofiad arbennig i gyfarfod a gweithio gyda chymaint o artistiaid cyffrous ledled Cymru ac rwy’n falch iawn o gyflwyno peth o’r gwaith hwn yn y cyhoeddiad heddiw. Theatr i Gymru yw Theatr Gen ac rwy’n gobeithio y bydd rhywbeth i bawb yn yr arlwy eleni.”

Fel rhan o’i ymrwymiad at weithio mewn ffyrdd mwy cynaliadwy a lleihau ei ôl-troed carbon, bydd y cwmni yn sicrhau bod pob un o’r cynyrchiadau a phrosiectau uchod yn cyrraedd safon gwaelodlin Llyfr Gwyrdd y Theatr (theatregreenbook.com). Mae hyn yn cynnwys gwneud cynaliadwyedd yn un o’r prif flaenoriaethau wrth ddechrau unrhyw gynhyrchiad newydd, cyrchu deunyddiau mewn ffordd gynaliadwy, ac ailgylchu a darganfod ffyrdd newydd o ddefnyddio darnau o set, props a gwisgoedd.

I gael rhagor o wybodaeth am yr holl gynyrchiadau a phrosiectau uchod, ewch i wefan Theatr Genedlaethol Cymru, theatr.cymru.