Mae Catryn Ramasut yn arweinydd strategol ac yn ymarferydd cyfryngau entrepreneuraidd gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau creadigol a sefydliadau celfyddydol. Ganed Catryn yng Nghaerdydd ac mae’n siaradwraig Gymraeg o dreftadaeth gymysg. Mae ganddi bersbectif unigryw ar dirwedd ddiwylliannol Cymru.
Fel cyd-sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr ‘Cynhyrchiadau ie ie’, mae Catryn wedi ennill gwobrau am ei gwaith sy’n cyfuno ffurfiau celfyddydol amrywiol ac sy’n dangos diwylliant Cymreig i’r byd. Ymysg ei ffilmiau mae “Separado!”, “Rockfield: The Studio on the Farm”, a “Black and Welsh".
Catryn yw Cadeirydd presennol Cymru Greadigol, mae’n aelod o fwrdd Canolfan Celfyddydau Chapter, a hi sy’n cynrychioli Cymru ar Gyngor Diwydiannau Creadigol DCMS. Drwy ymgymryd â’r swyddi yma, mae wedi dangos ei gallu i ddarparu cyfeiriad strategol, i feithrin twf yn y diwydiannau creadigol, ac i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae’n ymroddedig i adfywio’r sector celfyddydol, ac yn ymdrechu i gyfuno sensitifrwydd diwylliannol, arloesedd strategol ac arweinyddiaeth, i lunio gweledigaeth flaengar ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru; un sy'n cofleidio amrywiaeth ac yn meithrin creadigrwydd ar draws y genedl.
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Daw Catryn â phrofiad helaeth iawn o’r sector gelfyddydol yn ogystal â’r diwydiannau creadigol ac bydd ei hegni a’i ymroddiad i greadigrwydd a gwasanaethu cymunedau amrywiol Cymru yn gaffaeliad mawr i Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae hi'n rheolwr profiadol ac wedi eistedd ar fwrdd Chapter yng Nghaerdydd ers sawl blwyddyn bellach, a hi yw Cadeirydd Gymru Greadigol, corff sydd wedi datblygu'r sector diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Mewn cyfnod llawn heriau fe fydd syniadau ac egwyddorion craidd Catryn, yn ogystal â’i gweledigaeth bellgyrhaeddol yn sicrhau arweiniad cadarn ac anturus i’r celfyddydau yng Nghymru.”
Dywedodd Catryn Ramasut:
"Rwyf wedi gwirioni mod i’n gallu mynd i’r afael â'r her newydd hon fel Cyfarwyddwr y Celfyddydau i Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae ysbryd creadigol Cymru i’w weld ym mhobman, ac rwy'n awyddus i ffrwyno pŵer ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog wrth wthio ffiniau a chroesawu lleisiau newydd. O fy mhrofiadau mewn cynhyrchu ffilm a hyrwyddo amrywiaeth yn y diwydiannau creadigol, rwyf wedi gweld drosof fy hun effaith drawsnewidiol y celfyddydau. Nawr, mae'n bryd ail-ddychmygu'r hyn y gall y celfyddydau ei wneud i Gymru. Gadewch i ni wau gyd-blethu ein dawn greadigol gan wneud y celfyddydau yn hygyrch i bawb, gwella llesiant pobl ar draws ein cymunedau, ac hefyd, rhoi talent Cymreig ar lwyfan byd-eang. Gyda’n gilydd, gallwn greu dyfodol bywiog, cynhwysol i gelfyddydau Cymru, un sy’n wirioneddol adlewyrchu pob un ohonom ym mhob rhan o Gymru, ac sy’n cyfrannu at wlad gynaliadwy, lewyrchus.”
Dafydd Rhys, Chief Executive of Arts Council of Wales said:
“Catryn brings extensive experience from the arts sector as well as the creative industries and her energy and dedication to creativity and serving the wider communities of Wales will be a great asset. She is an experienced manager and has sat on the board of Chapter in Cardiff for many years and is currently Chair of Creative Wales which has developed the creative industries sector in Wales. In a period full of challenges, Catryn's core ideas and principles, as well as her far-reaching vision, will ensure firm and adventurous leadership for the arts in Wales.
Catryn Ramasut said:
"I'm thrilled to take on this new challenge as Director of Arts for the Arts Council of Wales. Wales’s creative spirit is abundant, and I'm eager to harness the power of our rich cultural heritage while pushing boundaries and embracing new voices. From my experiences in film production and championing diversity in the creative industries, I've seen first-hand the transformative impact of the arts. Now it's time to reimagine what the arts can do for Wales. Let's weave together our cultural threads and make arts accessible to all, and enhance wellbeing across our communities, while also showcasing Welsh talent on a global stage. Together, we'll create a vibrant, inclusive future for Welsh arts that truly reflects all of us, benefits every part of our society, and contributes to a sustainable, prosperous Wales."