Mae'r rhaglen lawn wedi'i chyhoeddi ar gyfer Gŵyl Tawe eleni sy'n cael ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar ddydd Sadwrn y 7fed o Fehefin.
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim i'w fynychu ar system cyntaf i'r felin, gyda'r amgueddfa'n agor am 10yb a'r diwrnod yn dechrau gydag amrywiaeth eang o berfformiadau gan ysgolion yr ardal ar lwyfan Coleg Gŵyr Abertawe yn Oriel y Warws.
Ar gyfer plant a theuluoedd sy'n mynychu, bydd perfformiad arbennig gan grŵp theatr Mewn Cymeriad yng Ngweithdy’r Glannau, ac yna cyfres o weithdai rhyngweithiol gan Familia de la Noche a Theatr na nÓg. Yng nghyntedd yr amgueddfa, bydd yr artist Rhys Padarn hefyd yn cynnig gweithdy galw i mewn a fydd yn galluogi mynychwyr i greu darn o gelf Gŵyl Tawe yn ei arddull Orielodl eiconig.
Mae’r hwyl yn parhau i mewn i’r prynhawn, gyda’r rhaglen gerddoriaeth fyw yn cychwyn am 12:30 ar lwyfan Cymru Greadigol yng ngardd yr amgueddfa gyda set gan y cerddor ifanc a chyffrous o Abertawe, Manon. Er mai dim ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y dechreuodd ysgrifennu ei chaneuon ei hun, mae hi eisoes wedi adeiladu dilyniant brwd gyda gigs rheolaidd o gwmpas gwahanol leoliadau yn Abertawe. Yn y cyfnod cyn yr ŵyl, rhyddhaodd Manon ei sengl gyntaf 'Amryliw', yn ogystal â fideo a recordiwyd trwy Gronfa Fideos Lŵp x PYST.
Mae'r gerddoriaeth fyw yn rhedeg am yn ail rhwng yr ardd a Llwyfan y Taliesin yn yr Ystafell Ocean drwy gydol y prynhawn, gan gynnwys set gan westeion arbennig, Adwaith, ar lwyfan Cymru Greadigol wrth i’r band ddychwelyd i’r ŵyl wedi rhyddhau eu trydydd albwm hir-ddisgwyliedig, 'Solas'.
Pys Melyn bydd yn cloi Llwyfan y Taliesin yn dilyn 2024 prysur i'r band a oedd yn cynnwys recordio sesiwn BBC 6 Music ar gyfer Riley & Coe, cefnogi Gruff Rhys ar y daith 'Sadness Sets Me Free', a pherfformio ochr yn ochr â Spiritualized yn Focus Wales.
Bydd Gruff Rhys a'i fand wedyn yn camu i’r llwyfan Cymru Greadigol i gloi'r ŵyl gyda'u sioe gyntaf yn Abertawe ers 2019. Mae'r lein-yp cerddorol llawn ar draws y ddau lwyfan hefyd yn cynnwys Crys, EADYTH, Kizzy Crawford, Los Blancos, Mari Mathias, Mali Hâf, a Penne Orenne. Mae'r amserlen lawn a rhagor o wybodaeth ar gael nawr trwy wefan Menter Iaith Abertawe.
Bydd cyntedd yr amgueddfa hefyd yn cynnal amrywiaeth o stondinau a gweithgareddau ychwanegol gan bartneriaid Menter Iaith Abertawe drwy gydol y dydd, tra rhwng 15:00-18:00 yn Oriel y Warws bydd cyfle i weld sesiynau AM Cymru Menter Iaith Abertawe wedi'u recordio gydag artistiaid sy’n chwarae'r ŵyl mewn gwahanol leoliadau ledled Abertawe ar y sgrin fawr. Mae'r sesiynau hyn yn cynnwys Los Blancos yn fyw o Theatr y Grand, Mali Hâf yn fyw o Arena Abertawe, a HMS Morris yn fyw o’r Kardomah Café.
Ar nos Sul yr 8fed o Fehefin, bydd yna hefyd parti cloi arbennig yn lleoliad y Bunkhouse yn cynnwys setiau gan HMS Morris, Accü, SYBS, a Betsan. Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn gyfyngedig ac maent ar gael i'w archebu nawr am ddim ond £10 o flaen llaw trwy wefan y lleoliad.
Cyflwynir Gŵyl Tawe 2025 gan Menter Iaith Abertawe mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, gyda chefnogaeth gan Llywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol, Cyngor Abertawe, The Bunkhouse Swansea, Coleg Gŵyr Abertawe, Canolfan Celfyddydau'r Taliesin, a chyllid gan Cyngor Celfyddydau Cymru.