Heddiw, cyhoeddwyd enwau chwech o enillwyr grantiau Cronfa Ddiwylliannol Cymru yn Ffrainc. Mae’r gronfa’n cael ei gweinyddu gan y British Council mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru. Nod y gronfa yw sbarduno cysylltiadau diwylliannol newydd rhwng Cymru a Ffrainc ac adnewyddu cysylltiadau sy’n bodoli’n barod i hybu mentrau cydweithio hir-dymor rhwng artistiaid a sefydliadau diwylliannol.

Mae’n gronfa o £100k, ac mae’n rhan allweddol o raglen Blwyddyn Cymru yn Ffrainc Llywodraeth Cymru sy’n dathlu digwyddiadau ym meysydd diwylliant, busnes a chwaraeon. Nod y rhaglen yw cryfhau’r cysylltiadau sy’n bodoli’n barod rhwng y ddwy wlad ac sydd wedi’u gwreiddio yn ein hanes a’n diwylliant cyffredin yn ogystal â ffurfio cysylltiadau newydd.

Mae’r rhaglen yn cefnogi mentrau cydweithio diwylliannol rhwng sefydliadau yng Nghymru a Ffrainc sy’n gweithio ym meysydd diwylliant, creadigrwydd a llesiant. Mae’r prosiectau llwyddiannus yn adlewyrchu amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol.

Mae cwmni theatr Hijinx yn creu cyfleoedd i actorion ag anableddau dysgu. Byddant yn datblygu prosiect clownio a gwaith pypedau gydag artistiaid niwrowahanol yng Nghymru ac yn Ffrainc gyda Compagnie de L’Oiseau Mouche.

Bydd prosiect yr Eisteddfod Genedlaethol ar y cyd â Festival Interceltique de Lorient dan arweiniad y cerddor o Gymru, Lleuwen Steffan (sy’n byw a gweithio yn Llydaw) yn cysylltu artistiaid o Gymru a Llydaw mewn cynhyrchiad newydd wedi’i ysbrydoli gan archif Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

Bydd cwmni Dirty Protest Theatre yn cysylltu dramodwyr ar sydd ar ddechrau eu gyrfa yng nghymunedau cefn gwlad Cymru a Ffrainc; tra bydd y cerddor o Gymru, Gruff Rhys, yn archwilio dylanwad diwylliant Ffrainc ar ei gerddoriaeth. Bydd Operasonic yn cysylltu pobl ifanc yng Nghasnewydd a Ffrainc er mwyn creu ffilm a fydd yn archwilio’r emosiynau sy’n gysylltiedig â rygbi; a bydd Mathilde Lopez, cyfarwyddwr cwmni theatr August 012 yn datblygu cysylltiadau a gwaith gyda theatrau yn Nantes a Marseilles.

Ceir rhestr gyflawn o’r prosiectau llwyddiannus isod.

Wrth sôn am ddyfarnu’r grantiau, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

“Mae ein celfyddydau a’n diwylliant yn eithriadol o effeithiol o ran datblygu proffil Cymru yn rhyngwladol. Bydd y gronfa hon yn buddsoddi yn natblygiad rhwydweithiau artistig a diwylliannol Cymru yn Ffrainc, gan amlygu ein diwylliant, ein treftadaeth a’n hiaith i gynulleidfaoedd newydd.

Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi gallu dyfarnu grantiau i’r sefydliadau a’r unigolion hyn. Byddant yn creu rhaglen a fydd yn rhoi llwyfan i’r gorau o’n diwylliant a chynnig profiadau rhyngwladol gwerthfawr i bobl ifanc yn ogystal â chreu cysylltiadau newydd cyffrous”.

Mae Cwmni Theatr Hijinx yn un o’r sefydliadau sydd wedi derbyn grant gan y gronfa. Dywedodd Prif Weithredwr Hijinx, Sarah Horner:

“Yn dilyn menter gyfnewid artistig a sefydliadol wych yn 22/23, rydyn ni wrth ein bodd i allu mynd â’n menter gydweithio gyda Compagnie l'Oiseau Mouche i’r lefel nesaf diolch i gronfa Cymru yn Ffrainc.

Bydd y grant yma’n helpu i greu darn theatr cynhwysol newydd ar gyfer 2024 a fydd yn cael ei ddatblygu gydag a chan artistiaid ag anableddau dysgu yn Lille a Chaerdydd. Mae ein gwaith yn parhau i ddangos gwerth diwylliannol a chreadigol aruthrol gweithio gyda phartneriaid y tu hwnt i Gymru, a gallwn ni ddim aros i rannu canlyniadau’r fenter gydweithredol yma!”

Wrth sôn am enillwyr y grantiau, dywedodd Anne Duncan, Cyfarwyddwr, British Council Ffrainc:                                                                                                     

“Derbyniodd y gronfa nifer o geisiadau gwych o bob rhan o Gymru a Ffrainc ar draws amrywiaeth o ffurfiau celf. Mae rhywbeth unigryw gan bob un o’r chwe phrosiect diwylliannol a chelfyddydol yma i’w gynnig, a bydd hynny’n helpu i ddatblygu a chynnal cysylltiadau allweddol rhwng y ddwy wlad a chefnogi artistiaid a sefydliadau wrth iddyn nhw archwilio ffyrdd newydd o weithio a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Wrth i ni fuddsoddi i gryfhau cysylltiadau diwylliannol, rydyn ni’n edrych ymlaen at ddilyn gwahanol siwrneiau’r prosiectau hyn a gweld yr effaith y byddant yn ei gael ar gysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Ffrainc yn ystod y flwyddyn arwyddocaol hon.”

Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae Blwyddyn Cymru yn Ffrainc, Cwpan Rygbi’r Byd, Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Paris yn cynnig cyfle i godi proffil Cymru yn rhyngwladol. Mae hefyd yn rhoi cyfle i artistiaid o Gymru weithio gyda phartneriaid yn Ffrainc i gyflwyno rhaglen ddiwylliannol gyffrous a fydd yn cychwyn yr haf yma.

Rydyn ni wrth ein bodd i gyd-fuddsoddi yn y cyfle hwn drwy ein hasiantaeth, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, ar y cyd â’r British Council a Llywodraeth Cymru i alluogi artistiaid i ddatblygu eu gwaith yn Ffrainc mewn modd cynaliadwy a meithrin cysylltiadau a fydd, gobeithio, yn rhai hirdymor.”

Gwybodaeth am enillwyr y grantiau a’u prosiectau:

  • Mae Dirty Protest Theatre wedi gweithio gyda thros 200 o ysgrifenwyr o Gymru, gan lwyfannu dramau lle gwerthwyd pob tocyn mewn theatrau a chanolfannau amrywiol ac amgen – o dafarndai a chlybiau, i siopau kebab, siopau trin gwallt a choedwig. Bydd y prosiect yn cynnwys gweithdai rhwng dau gwmni ysgrifennu newydd, gan gysylltu chwech o ysgrifenwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa yng Nghymru a Ffrainc.

 

  • Mae Operasonic yn elusen gerddoriaeth gymunedol yng Nghasnewydd sy’n gweithio gydag a thros drigolion y ddinas. Bydd prosiect Operasonic yn cynnwys cyfres o weithdai gyda phobl ifanc yng Nghasnewydd yn archwilio’r gwahanol emosiynau sy’n rhan o fod yn gefnogwr rygbi yng Nghymru drwy gyfrwng cerddoriaeth. Bydd y prosiect hefyd yn datblygu ffilm gyda gweithwyr cerddoriaeth proffesiynol sydd ar ddechrau eu gyrfa yng Nghymru a Ffrainc – i’w dangos mewn 3 o leoliadau awyr agored mewn strydoedd/gwyliau yn Ffrainc.

 

  • Mathilde Lopez yw cyfarwyddwr artistig cwmni theatr August 012. Bydd y prosiect yma’n troi o gwmpas cyfres o sgyrsiau a chyfarfodydd gyda chanolfannau perfformio yn Ffrainc i ddatblygu menter gydweithio newydd cwmni August 012 gyda’r canwr a’r cyfansoddwr, Katell Keineg.

 

  • Mae Gruff Rhys yn gerddor, cyfansoddwr, cynhyrchydd, gwneuthurwr ffilm ac ysgrifenwr o Gymru. Bydd y prosiect yma’n cynnwys perfformiadau rhagflas arbennig yn Ffrainc gyda chydweithiwr Gruff yno, y peirianydd cerddorol, Maxime Kosinetz. Bydd mwy o gyhoeddiadau am y prosiect yma’n dilyn ym mis Medi 2023.

 

  • Mae Hijinx yn gwmni theatr proffesiynol sy’n gweithio i arloesi, creu a hybu cyfleoedd i actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth greu cynhyrchiadau eithriadol. Bydd prosiect ‘Bon Appetit’ yn berfformiad gyda chlowniau a phypedau a fydd yn cael ei ddatblygu gan artistiaid niwrowahanol o Hijinx yng Nghymru a Compagnie de L’Oiseau Mouche yn Ffrainc. Bydd y gwaith yn cynnwys pythefnos o weithdai yng Nghymru a fydd yn arwain at wythnos gynhyrchu a’r perfformiad cyntaf yn Ffrainc.

 

  • Bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn cydweithio gyda Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient yn Llydaw ar gywaith rhwng cerddorion o Gymru a Llydaw i greu cynhyrchiad cerddorol newydd dan arweiniad y cerddor o Gymru, Lleuwen Steffan (sy’n byw a gweithio yn Llydaw). Bydd eitemau o archif Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan yn cael eu plethu â cherddoriaeth newydd (electronig ac acwstig) gan rai o gerddorion blaenllaw’r ddwy wlad.

 

Ymholiadau’r wasg – cysylltwch â:

Rosalind Gould, British Council: +44 (7770 934953)  E: rosalind.gould@britishcouncil.org

Eluned Hâf, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru  E: eluned.haf@wai.org.uk

Siwan Dafydd, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru  E: siwan.dafydd@wai.org.uk