Mae Iwan Fôn, Mali O'Donnell ac Eddie Ladd wedi eu cyhoeddi fel cast a'r band HMS Morris a Osian Williams (Candelas) fel cerddorion ar gyfer y cynhyrchiad Popeth ar y Ddaear gan Marged Tudur, Mari Elen, Iestyn Tyne a Lauren Connelly.

Dyma’r cynhyrchiad theatr cyntaf erioed i’w berfformio ym Maes B.

Y band roc-gelf HMS Morris a phrif leisydd Candelas, Osian Williams fydd yn perfformio cerddoriaeth wreiddiol yn fyw. Osian ei hun sydd wedi cyfansoddi’r sgôr.

Mae Iwan Fôn, sy’n chwarae rhan Tom, yn enw cyfarwydd i gynulleidfaoedd  Maes B fel aelod o’r bandiau  Y Reu a Kim Hon. Mae’r actor o Garmel ger Caernarfon yn adnabyddus i rai fel Jason yn y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd, ac hefyd wedi gwneud ei farc fel actor llwyfan (Ar y Stryd, Frân Wen, Mrs Reynolds a'r Cena Bach; Theatr Genedlaethol Cymru).

Bydd Eddie Ladd (Blodeuwedd; Canolfan Chapter a Chwmni Diversions, Dawns Ysbrydion, Theatr Genedlaethol Cymru) yn chwarae rhan Malltwen, gyda Mali O’Donnell (Casualty; BBC, Spring Awakening; Almeida, Cariad yn Oes y Gin; Theatr Bara Caws) yn chwarae rhan Nona.

Nico Dafydd sy'n cyfarwyddo'r stori yma fydd yn gwahodd cynulleidfa i gamu mewn i fyd yn y dyfodol agos, ble mae trychineb catastroffig wedi boddi cymunedau.

Fe ddown ar draws Tom, sy'n aros i glywed â fydd yn derbyn lloches; ac Nona, sydd angen gwneud penderfyniad dros ei hun a’r babi yn ei bol. Byddwn hefyd yn cyfarfod Malltwen ar ei noson olaf ar y ddaear - ac mae hi’n benderfynol o adael y byd mewn gwell stad.

Caiff y gynulleidfa eu tywys ar  Maes B trwy gydol y ddrama, sy’n cael ei pherfformio ar nos Wener 11 Awst (11pm), yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023. 

Meddai’r Cyfarwyddwr Nico Dafydd; “Ma’ cael trawsnewid Maes B ar gyfer theatr byw yn fraint enfawr a ni methu disgwyl cyflwyno profiad epig fydd gobeithio yn gwneud cyfiawnder â’r gofod eiconig yma.”

Mae’r cast profiadol yn cael eu cefnogi gan ensemble o berfformwyr ifanc sydd wedi bod yn ymarfer ers misoedd ar gyfer y digwyddiad.

“Rhaid chi fod yn barod i golli eich hunain yn y stori a’r gerddoriaeth,” meddai Ryan Hughes, un o’r perfformwyr ifanc.

“Dydw i ddim isio rhoi unrhyw sboilers ond mae o’n mynd i fod yn ffrwydriad o liw a sain - a thân! Ond y cwestiwn mawr ydi, lle fyddi di pan mae’r haul yn codi?”

Meddai Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen; “Mae Popeth ar y Ddaear yn gynhyrchiad hollol unigryw; digwyddiad theatrig ar raddfa fawr ar safle annisgwyl wedi ei greu gan rhai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru ynghyd a chriw o bobl ifanc hynod ddawnus. Rydym yn hynod o falch cyhoeddi’r cast bydd yn ymuno a’r tim yma i gynnig profiad fel na welwyd ym Maes B o'r blaen. 

“Mae Eddie, Iwan a Mali yn dod a blynyddoedd o brofiad perfformio mewn mannau annisgwyl twy eu gwaith theatr, gigio a digwyddiadau safle penodol.”

Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol; “Rydyn ni’n credu’n gryf bod angen i ni fynd â’n hiaith, ein diwylliant a’r celfyddydau at bobl o bob oed, ac mae’r cyfle i wneud hyn gyda Popeth ar y Ddaear yn gwbl wefreiddiol ac yn siŵr o ddenu cynulleidfa newydd i gymryd diddordeb ym myd y theatr yng Nghymru.”