Ymhlith y 41 arddangoswr ar y rhestr, ynghyd ag artistiaid sefydledig a sawl un sydd heb arddangos ers tro, mae bron i hanner ohonynt yn newydd i’r Lle Celf.
Yn ogystal, mae cynrychiolaeth dda o ddalgylch y Brifwyl, a fydd yn rhoi stamp lleol ar y sioe.
O baentiadau a chrochenwaith, celf ddigidol a gwaith metel, i animeiddio a fideo, mae’r ystod gelfyddydol yn eang.
“Mae’r arddangosfa yn Y Lle Celf yn codi’r llen ar yr hyn sy’n digwydd yn y byd celf yng Nghymru ar adeg benodol ac yn gyfle i ddathlu rhagoriaeth, dyfeisgarwch ac ymroddiad mewn celf a chrefft cyfoes,” meddai Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod. Detholwyd yr Arddangosfa. “Mae’n gyfle hefyd i godi trafodaeth ac annog y gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o’r celfyddydau gweledol .”
Detholwyd yr Arddangosfa Arbennig gan yr artist Manon Awst, y curadur Bruce Haines a’r arbenigwraig ar gelfyddydau cymhwysol Teleri Lloyd-Jones.
Gyda bod teilyngdod, cyhoeddir enwau enillwyr y Medalau Aur am Gelfyddyd Gain a Chrefft a Dylunio a’r Ysgoloriaeth Artist Ifanc yn yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn, 3 Awst. Yn ogystal, cyhoeddir enillwyr Gwobr Ifor Davies, am waith sy’n cyfleu ysbryd y frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru; Gwobr Tony Goble, am waith gan artist sy’n arddangos am y tro cyntaf ynghyd â Gwobr Bwrcasu Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru yn ystod yr wythnos. Yn ôl yr arfer, datgelir enillydd Gwobr Josef Herman – Dewis y Bobl am y gwaith mwyaf poblogaidd yn yr Arddangosfa Agored, ar ôl cyfri’r bleidlais, ar ddydd Sadwrn olaf yr Eisteddfod. Eleni am y tro cyntaf, fel arwydd o’i hymrwymiad at gefnogi artistiaid Cymru a’u pwysigrwydd yng nghyd-destun strategaeth gasglu’r corff, prynir gwaith gan Amgueddfa Cymru.
Gwireddir Y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol mewn partneriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.
Arddangosfa Agored Y Lle Celf 2019
Dyma restr o’r artistiaid sy’n cyfranogi eleni.
Susan Adams https://susan-adams.co.uk/
Glyn Baines
Bev Bell-Hughes
Zena Blackwell https://zenablackwell.tumblr.com/
Lisa Carter http://lisa-carter.com/
Sarah Carvell
Hannah Cash
Alison Craig https://stiwdiopenyrallt.com/
Kim Dewsbury
Gwen Evans
Ann Catrin Evans http://www.anncatrinevans.co.uk/
Barry Eveleigh https://www.eveleighphotography.net/
Rosie Farey
David Garner http://www.davidgarnerartist.com/
Morgan Griffith http://www.sonomano.co.uk/
Helen Grove-White https://www.helengrovewhite.co.uk/
Louise Hibbert https://louisehibbert.com/
+ Chloe Needham
Mark Houghton http://www.markhoughton.com/
Maggie James https://www.maggiejames.info/
Rhian Wyn Jones
Richard Lloyd Lewis https://www.lloydlewis.co.uk/
Elfyn Lewis https://www.elfynlewis.com/
David W J Lloyd https://daytripart.com/
Catrin Llwyd http://catrinllwyd.co.uk/
Gweni Llwyd
Gwenllian Llwyd
Kieran Lyons http://kieranlyons.uk/
Anne-Mie Melis http://www.annemiemelis.eu/
Eleri Mills http://www.elerimills.co.uk/
Sara Rhoslyn Moore https://sararhoslyn.wordpress.com/
Sian Parri
Tomos Sparnon https://www.tomossparnon.com/
André Stitt http://www.andrestitt.com/
Siw Thomas
Laura Thomas https://www.laurathomas.co.uk/
Daniel Trivedy http://www.danieltrivedy.com/
James + Tilla Waters https://www.jamesandtillawaters.co.uk/
Gwyn Williams https://gwynwilliams.net/
Heulwen Wright https://heulwenwrightglass.co.uk/