Mae cyfnodolyn Artes Mundi 10 yn gyfres o wyth testun gwreiddiol a guradwyd gan y sgwennwr celf Dylan Huw. Gan symud rhwng ieithoedd a ffurfiau – beirniadaeth, ffuglen, traethodau gweledol, cyfweliadau – gyda’i gilydd maen nhw’n datgelu ac adlewyrchu rhai o themâu a strategaethau artistiaid AM10, mewn deialog ag ymchwil hir-dymor cyfrannwyr sy’n gweithio mewn cyfryngau a chyd-destunau amrywiol yng Nghymru a thu hwnt.

 

#1

Daw darn cyntaf cyfnodolyn AM10 gan olygydd y gyfres, Dylan Huw. Gan ddyfeisio ffurf ddwyieithog ‘nol-a-mlaen annisgwyl, mae’n lleoli rhai o’r themâu a’r disgyrsiau sydd wrth graidd y saith darn sydd i ddilyn, gan edrych at bâr o ffilmiau gan Alia Farid, a’r cwestiynau mae eu cyflwyniad yn Amgueddfa Cymru yn ysgogi.

 

#2

Darn gan yr awdur-guradur Taylor Le Melle yw’r ail yn ein cyfres. Gan edrych ar bennod o unig nofel yr athronydd gwrth-goloneiddio Sylvia Wynter, The Hills of Hebron (1962), sydd wedi ei osod yn Jamaica yn y cyfnod cyn ei ryddhad o reolaeth Prydain, hola Le Melle gwestiynau cyfoethog a synhwyrus am ein dealltwriaeth o gelfyddyd a cham/gydnabod mewn cyflyrrau o ansicrwydd a chyfnewid cyfalafol.

 

#3

Yn ei gwaith aml-gyfrwng, mae Catrin Menai yn dyheu am iaith sy’n “disgyn yn fwy rhydd, fel creigiau neu llwch.” Yn ‘ALAW TU HWNT I NI²,’ dilyniant o fath i ddarn crëodd ar gyfer prosiect TROI, TROSI llynedd gyda golygydd cyfnodolyn AM10, Dylan Huw, mae’n pentyrru deilchion dyfynnol, sgwennu barddonol, gohebiaeth a deunyddiau archifol i adeiladu ymdeimlad o alw ac ymateb: rhwng ieithoedd, cyfnodau a llefydd, ac hefyd rhwng gwaith Taloi Havini ar gyfer Artes Mundi 10 yn Mostyn a’i phrosiect parhaol o gloddio i gof teuluol a’r moddau caiff gwybodaeth ei gario o genhedlaeth i genhedlaeth.

 

#4

Digwydda sawl peth ar unwaith yn y pedwerydd ysgrif yn yn y gyfres, gan Sophie Mak-Schram, sy’n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio ledled Ewrop. Sonia am gyfarfyddiadau blaenorol â gwaith artistiaid AM10, a chysyniad y theorïwr cwiar Elizabeth Freeman o “temporal drag,” i angori ystyriaeth aml-leisiol o’r systemau sy’n cynhyrchu’n profiadau o fod yn gyrff yn edrych ar gelf mewn llefydd ac amseroedd penodol. Mae’r ysgrif yn ymgais i siarad yn onest am sut mae pethau’n cyrraedd lle maen nhw, a’r sydd yn y fantol yn y weithred o edrych.

 

#5

Darn o awtoffuglen arbrofol gan Steffan Gwynn yw’r pumed darn yn y gyfres, a sgwennwyd dan ddylanwad trioleg o ffilmiau gan Naomi Rincón Gallardo yn Chapter. Fel ambell destun arall yma, mae ‘Penillion Rhyddid’ yn cyfuno ymdeimlad o gloddio i gof a phrofiad personol a phwyslais ar sut caiff hanesion gwleidyddol eu hymgorffori gan dirweddau. Mae hefyd yn naratif hypnotaidd o fywyd nos, protest a galar cwiar.

 

#6

Mae’r weithred o siarad â cherrig yn ail-ymddangos eto ac eto yng ngwaith Rebecca Jagoe, fel ffordd o fyfyrio ar gyd-bresenoldeb yr hynafol, y presennol a’r dychmygus. Mae ei archwiliadau, mewn sgwennu a chyfryngau arbrofol, o’r ffyrdd mae iaith, tir a strategaethau o fodoli-fel-arall yn cydblethu, yn gweddu’n berffaith gydag ethos y gyfres hon. Ymhlith y cyfeiriadau mae ysgrif aml-leisiol ac emosiynol Rebecca yn cwmpasu mae trioleg Naomi Rincón Gallardo yn Chapter, myfyrdodau’r athronydd Empedocles a hanes daearegol de Cymru.

 

#7

Mae’r sgwennwr-guradur Aaditya Aggarwal, sy’n byw yn Toronto, yn parhau gyda naws gyfeiriol ddiflino’r gyfres, gydag ysgrif barddonol ar ddelweddau o ffigyrau benywaidd yn gorwedd neu’n gorffwys. Gan gyfeirio at sinema Hollywood ac India, ffotograffau Dayanita Singh ac artistiaid ffilm cyfoes, mae’n edrych yn ddi-wahân dros bob math o ffynhonellau i gynhyrchu poetics a dealltwriaethau newydd sy’n gynhenid gymharol; drych, felly, o ethos Artes Mundi, a’r gwaith sgwennu a gynhyrchwyd i’r platfform hwn yn enwedig.

 

#8

Mae prosesau o echdyniad ac ecsbloetiaeth yr un mor greiddiol i’r systemau a’r technolegau sy’n cynhyrchu diwylliant weledol ag i beirianwaith rhyfel a choloneiddio. Dyma un o linynnau cyson Artes Mundi 10, yn enwedig yng ngwaith Taloi Havini, a gyhoeddwyd fel enillydd gwobr AM10 yn ddiweddar. Fel y comisiwn olaf yn y gyfres hon o ysgrifau’n ymateb i’r rhaglen, dyma ddarn gan Joanna Wright, ymchwilydd a gwneuthurwr ffilmiau dogfen o Ynys Môn, a gychwynnodd sgwrs gyda Taloi Havini ar ôl gweld ei gwaith yn Mostyn, yr oriel tyfodd fyny’n ymweld â hi. Mae eu sgwrs bell-gyrhaeddol yn amlygu astudiaethau hir-dymor y ddwy artist o gymlethdod moesol y strwythurau sy’n ein galluogi i weld a chael ein gweld, yn ogystal â pha mor anodd ac angenrheidiol yw ffurfio cymuned wrth weithio o fewn strwythurau sydd bron â mynnu cyfaddawdu’n hygrededd.