Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn dymuno annog pobl i ymgeisio am grantiau o’r gronfa Cydrannu, er mwyn meithrin a chryfhau cyfleoedd rhwydweithio sy’n bodoli eisoes.
Mae'r arian hwn yn targedu mentrau sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo Cyfartaledd ac Amrywiaeth gan gynnwys (ond heb eithrio):
- Mynd i’r afael â chynulleidfaoedd anodd eu cyrraedd
- Datblygu cynulleidfaoedd amrywiol ar gyfer y Celfyddydau
- Cynyddu ymgyfranogi yn y Celfyddydau ymhlith cymunedau sydd heb gymryd rhan
- Datblygu modelau ariannu cynaliadwy i gynnal y gweithgarwch hwn
Mae pob math o rwydweithiau. Mae rhai'n fwy ffurfiol nag eraill; rhai'n fawr, eraill yn fach iawn. Gallent gyfarfod yn rheolaidd neu'n ôl yr angen. Nid oes raid i rwydweithiau'r dyddiau hyn fod yn wyneb yn wyneb - gallant fod ar-lein.
Mae gennym arian sydd ar gael am brosiectau bychain untro yn 2019/20 a gallwn roi hyd at £2,000 y prosiect.
I ymgeisio rhaid llenwi ffurflen gais. Am wybodaeth bellach ewch os gwelwch yn dda at https://arts.wales/cy/ariannu/gwneud-cais/unigolion/cydrannu
Mae’r dyddiad cau nesaf ar gyfer grantiau 27 Medi 2019