Roedd un o ffigurau amlycaf cerddoriaeth yng ngogledd Cymru yn meddwl ei bod wedi cael dirwy am oryrru pan agorodd lythyr swyddogol - ond roedd y newyddion yn llawer gwell nag yr oedd hi'n ei ofni.
Darganfu Ann Atkinson, cyn-gyfarwyddwr artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, ei bod wedi derbyn MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.
Yn ôl Ann, roedd hi'n gyffrous iawn o glywed ei bod wedi cael ei henwebu ar gyfer yr anrhydedd ar ôl gwasanaethu'r ŵyl am ddau ddegawd cyn camu i lawr ddwy flynedd yn ôl.
Yn ei rôl newydd fel is-lywydd anrhydeddus, mae hi'n edrych ymlaen at y digwyddiad eleni yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy rhwng Medi 11 a 20.
Talodd ei olynydd, y cyfansoddwr brenhinol Paul Mealor, deyrnged i "gyfraniad aruthrol" Ann.
Dywedodd: "Mae Ann yn llawn egni a bwrlwm cyfeillgar ac yn chwedl ym myd cerddoriaeth a'r celfyddydau yng Nghymru. Rydym yn ddyledus iddi am droi'r ŵyl yn ddigwyddiad sydd wedi ennill ei blwyf fel un o uchafbwyntiau calendr diwylliannol y DU.”
"Byddaf yn fythol ddiolchgar i Ann am yr help a'r cyngor doeth y mae hi wedi'i roi i mi ar ôl cymryd y llyw, oedd yn golygu bod cymryd yr awenau ganddi wedi bod yn broses esmwyth a llyfn.”
"Rydym wrth ein boddau bod ei chyflawniadau wedi cael eu cydnabod gyda'r MBE yma – mae'n haeddiannol iawn".
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres hir o anrhydeddau i Ann, sy'n byw ger Corwen, ac sydd wedi cael ei disgrifio fel "grym natur" a "chwedl y sîn gerddoriaeth glasurol" yng ngogledd Cymru.
Yn mezzo soprano enwog ei hun, mae Ann wedi canu gyda llawer o brif gwmnïau opera Prydain, gan gynnwys Scottish Opera, Glyndebourne Festival Opera a Wexford Festival Opera.
Rhwng 2002 a 2009 roedd Ann hefyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Fron a ddaeth yn enwog fel y "Band Bechgyn Hynaf y Byd", gan ryddhau sawl albwm a chyrraedd brig y siartiau clasurol am 16 wythnos.
Cafodd Ann ei hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009 a flwyddyn yn ddiweddarach fe'i gwnaed yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Yn 2011 derbyniodd Wobr Teilyngdod Urdd Lifrai Cymru i gydnabod ei chyflawniadau eithriadol i fyd cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt.
Cafodd ei chydnabod unwaith eto am ei chyfraniad i gerddoriaeth Gymreig yn 2019 pan dderbyniodd Wobr fawreddog Syr Geraint Evans gan Urdd Cerddoriaeth Cymru yng Nghaerdydd.
Dair blynedd yn ôl cafodd Ann ei gwneud yn Gydymaith er anrhydedd o'r Academi Gerdd Frenhinol i gydnabod ei chyfraniad i gerddoriaeth.
Nid yw Ann yn gorffwys ar ei rhwyfau serch hynny oherwydd mae hi'n dal i fod yn brysur fel cyfarwyddwr cerdd dau gôr meibion, Côr Meibion Trelawnyd a Chôr Meibion Bro Glyndŵr ac mae'n diwtor canu i lu o unawdwyr ifanc addawol.
Ond pan gyrhaeddodd y llythyr i'w hysbysu am yr MBE am eiliad roedd yn ofni ei fod yn cynnwys newyddion drwg.
Dywedodd: "Pan welais y llythyr swyddogol yr olwg roeddwn i'n meddwl fy mod wedi cael dirwy am oryrru neu fy mod i'n cael fy ngalw i wneud gwasanaeth rheithgor.”
"Pan wnes i ei agor roeddwn i'n methu mynd heibio’r paragraff cyntaf, doeddwn i ddim yn gallu darllen ymhellach. Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth. Rwy'n dal i binsio fy hun. Roedd yn syndod hyfryd ac yn anrhydedd fawr iawn.”
"Pan ddes i’n gyfarwyddwr artistig, roedd yr ŵyl yn wynebu llawer o heriau ac rwy'n credu ein bod ni wedi cyfarfod â'r holl heriau hynny a gadael yr ŵyl ar sail fwy diogel ar gyfer y dyfodol.”
"Un o'r pethau rydw i'n falch ohono oedd datblygu elfen addysgol yr ŵyl, neilltuo rhan o’r digwyddiad i blant a’u cynnwys nhw yn rhan ohoni. Nhw yw perfformwyr a chynulleidfa'r dyfodol.”
"Fyddan nhw ddim yn anghofio'r profiad o chwarae ar lwyfan yr ŵyl gyda cherddorion proffesiynol neu ddod i'r ŵyl i weithio ar wahanol brosiectau.”
"Ymhlith yr uchafbwyntiau mwyaf i mi oedd carreg filltir fawr dathlu 50 mlwyddiant yr ŵyl.”
"Ond ar ôl dau ddegawd, roeddwn i'n teimlo bod yr amser yn iawn i mi gamu i lawr a rhoi cyfle am waed newydd a syniadau ffres.”
"Mae'r ffaith mai'r ŵyl wnaeth fy enwebu ar gyfer yr anrhydedd hon yn golygu llawer iawn. Rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw.”
"Fe ddes i'n is-lywydd yr ŵyl y llynedd sy'n golygu y gallaf barhau i gymryd rhan.”
"Roedd Paul yn ddewis ysbrydoledig fel y cyfarwyddwr artistig newydd ac mae'n gwneud gwaith gwych ac yn rhoi ei stamp ei hun ar yr ŵyl. Mae'n cyflwyno ambell i newid ond yn aros yn driw i werthoedd craidd yr ŵyl".
Ymhlith y prif berfformwyr eleni mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y grŵp corawl rhyngwladol Apollo5 a'r Black Dyke Band enwog.
Yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn yr ŵyl eleni bydd y cyfansoddwr ffilm a theledu nodedig, Debbie Wiseman OBE. Bydd ei cherddoriaeth i ffilmiau a rhaglenni fel Wolf Hall, Shakespeare a Hathaway, Judge John Deed a llawer o rai eraill yn cael eu chwarae gan gerddorfa NEW Sinfonia.
Uchafbwynt arall eleni fydd ail gystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Pendine a lansiwyd y llynedd ac sy'n cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine a sefydlwyd gan brif noddwyr yr ŵyl, sefydliad gofal Parc Pendine.
Bydd y cyngerdd olaf yn cynnwys Cymdeithas Gorawl a Cherddorfa Gogledd Cymru o dan eu harweinydd Trystan Lewis.
Hefyd yn dychwelyd bydd gweithgareddau ymylol ‘ffrinj’ yr ŵyl a gyflwynwyd gan Paul Mealor fel elfen newydd y llynedd i greu cysylltiadau agosach gyda'r gymuned leol yn Llanelwy.
Bydd y digwyddiadau ymylol yn cynnwys noson cabaret a chaneuon Americanaidd, comedi stand-yp, a noson o farddoniaeth dan arweiniad un o feirdd mwyaf Cymru, Mererid Hopwood, yr Archdderwydd presennol.
Mae tocynnau a rhagor o fanylion am raglen yr ŵyl a chystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Pendine ar gael ar-lein yn https://nwimf.com.
Mae tocynnau hefyd ar gael o Cathedral Frames, Llanelwy - 07471 318723 (Dydd Mercher – Dydd Gwener, 10 - 4) a Theatr Clwyd dros y ffôn - 01352 344101 (Dydd Llun – Dydd Sul, 10 - 8).