CYFLE I ARTISTIAID yn digwydd yn Ionawr 2024 gyda Theatr Byd Bach fel rhan o brosiect Cyngor Sir Benfro a gyllidwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Gwahoddir artistiaid o Sir Benfro i wneud cais am brofiad mentora a delir amdano gyda thîm Theatr Byd Bach. Mae’r cyfle hwn yn addas yn benodol ar gyfer artist sydd â chefndir mewn creu gwaith 3D sydd yn awyddus i fagu profiad yn gweithio gyda chymunedau a chyd-greu prosiectau celfyddyd gyhoeddus. Bydd y mentora wedi’i leoli yn Abergwaun, Wdig ac Aberteifi. 

Ffi: £3,000 gan gynnwys TAW a threuliau dros 10 diwrnod.

Os yw hwn yn apelio i chi, yna dewch i sgwrs ‘Cwrdd â’r Artist’ yn Theatr Gwaun ar
20/12/23 (archebwch eich lle drwy wefan Theatr Gwaun) neu dewch i siarad â ni yn un o’r sesiynau
Cyd-greu yn Neuadd Tref Abergwaun ar 20/1/24.

Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Amy Morris, rheolwr prosiect amy@smallworld.org.uk