DYDDIAD CAU CEISIADAU: Canol nos, 27 Hydref 2024
CYLLIDEB Y PROSIECT: £37,750 (yn cynnwys Ffi Dylunio’r Artist £5,000, wedi’i seilio ar £375/diwrnod, a chyllideb llunio a mewnosod £32,750)
Mae Porthaven Homes am gomisiynu artist i weithio gydag Addo a thîm dylunio cartref gofal newydd yn Milton Keynes. Bydd yr artist yn cynhyrchu celfwaith parhaol i’r safle i wella’r tirlun o gwmpas y Cartref Gofal ac i wella lles a phrofiadau pob dydd ei drigolion, ei staff ac ymwelwyr.
Bydd yr artist yn gwneud cyfnod o ymchwilio a datblygu’r dyluniad ar y cyd â’r cleient, eu tîm dylunio ac Addo cyn creu dyluniad celfwaith annibynnol sy’n ymateb i gyd-destun penodol y cartref gofal a’r cyffiniau.
Cymhellir artistiaid unigol, partneriaethau, cydweithfeydd neu stiwdios sy’n cwrdd â meini prawf y brîff i wneud cais.
Y BRÎFF LLAWN A MANYLION SUT I WNEUD CAIS yma: