Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn awyddus i gefnogi rhwydweithiau creadigol newydd neu bresennol sy'n llywio, cyfoethogi ac ehangu'r sector celfyddydau yma yng Nghymru. Rydyn ni'n agored i bob math o syniadau.

O 1 Gorffennaf 2025, mae'r gronfa Cydrannu yn agored i geisiadau. Mae'n bwysig bod y sgyrsiau a sbardunwyd gan Mae Bywyd Pobl Dduon o Bwys a Ni Chawn ein Dileu yn parhau ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan rwydweithiau sydd wedi'u gwreiddio mewn cymunedau Byddar, anabl, niwroamrywiol, ac ethnig a diwylliannol amrywiol.

Ein nod yw helpu'r sector i dyfu o'r tu mewn, gan gefnogi mentrau ar lawr gwlad sy'n cysylltu pobl, rhannu gwybodaeth, a herio'r status quo—yn enwedig i'r rhai sy'n teimlo eu bod wedi'u datgysylltu â'r celfyddydau am unrhyw nifer o resymau.

P'un a ydych chi'n dechrau cymuned ar-lein, yn lansio grŵp dan arweiniad artistiaid, neu'n ehangu rhwydwaith presennol, efallai y bydd y Gronfa Cydrannu’n gallu helpu.

Mae cyllid bellach ar gael ar gyfer:

  • Costau cychwyn a sefydlu digwyddiadau cymunedol a rhwydweithio
  • Modelau arloesol gydag effaith barhaol 

Rydym yn gwybod bod rhwydweithiau yn medru cymryd sawl ffurf. Mae rhai yn fwy ffurfiol nag eraill; rhai mawr, eraill yn fach. Gall rhwydweithiau ddewis cyfarfod yn rheolaidd, eraill fel a phan fydd yr aelodau'n teimlo ei fod yn angenrheidiol. Yr hyn sy'n bwysig, yw eu bod yn cynnull pobl a sefydliadau sy’n rhannu’r un diddordebau a’r anghenion.

Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad i sector celfyddydau mwy cynhwysol, cynrychioliadol a chysylltiedig yng Nghymru—un lle mae pob llais yn cyfrif.

Mae ceisiadau'n agor 1 Gorffennaf 2025 ac yn cau am 12pm ddydd Mercher 3 Medi 2025.

Darllenwch y Canllawiau llawn yma