Rhaglen hyfforddi ar-lein i sefydliadau celfyddydol sy’n dymuno cyflwyno cefnogaeth llesiant effeithiol a chynaliadwy i ymarferwyr a staff
Dyddiadau: Mawrth 30 Ionawr, 10yb - 1yp A Mawrth 6 Chwefror 2024. 10yb - 1yp
Cost: £70 (Sefydliadau cyllid portffolio)/ £40 (Sefydliadau cyllid prosiect)
Gallwn gynnig nifer fach o fwrsariaethau AM DDIM. Cysylltwch â ni os hoffech ymgeisio am un o’r rhain.
Ar gyfer pwy mae hwn?
Mae’r hyfforddiant yn berthnasol i unrhyw sefydliad celfyddydol sy’n cyflogi artistiaid llawrydd a/neu sydd â’u tîm eu hunain ar gyfer cyflwyno prosiectau celf cyfranogol. Yn benodol, anelir yr hyfforddiant at sefydliadau sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd, iechyd meddwl a llesiant. Anelir y cwrs at staff uwch mewn sefydliadau celfyddydol ac ymddiriedolwyr sy’n cefnogi llesiant strategol mewn sefydliad.
Bydd yr hyfforddiant yn eich helpu i wneud y canlynol:
- Gwerthuso’r hyn rydych chi’n ei gynnig ar hyn o bryd a gwybod am gymorth llesiant ar gyfer eich timau cyflenwi.
- Edrych ar sut mae diwylliant, strwythurau ac ymarfer y sefydliad yn effeithio ar lesiant ymarferwyr.
- Dysgu beth yw arfer gorau mewn sefydliadau celfyddydol eraill.
- Datblygu cynllun gweithredu i ddechrau eich taith at gyfoethogi eich cynnig cymorth llesiant.
- Cynhelir yr hyfforddiant dros ddau hanner diwrnod ar Zoom. Mae angen i’r cyfranogwyr fod yn bresennol ar y ddau ddiwrnod.
Hyfforddwr:
Eich hyfforddwr fydd Justine Wheatley. Mae Justine yn ymgynghorydd a hyfforddwr llawrydd. Mae’n weithiwr proffesiynol yn y celfyddydau ers dros 20 mlynedd. Bu’n Gyfarwyddwr Gweithredol y sefydliad celfyddydol gwledig Peak Cymru tan 2023 ac mae ganddi gyfoeth o brofiad ymarferol yn cefnogi timau cyflwyno’n greadigol mewn cyd-destunau celfyddydau ac iechyd.
Mae’r hyfforddiant hwn yn rhan o raglen Sut Mae’n Mynd? a gyllidir gan Sefydliad Baring, sy’n cefnogi llesiant meddyliol ac emosiynol artistiaid llawrydd. Mae WAHWN wedi ymrwymo i ddatblygu sector celfyddydau ac iechyd llewyrchus yng Nghymru gan flaenoriaethu llesiant ein gweithwyr creadigol proffesiynol sy’n cyflawni’r gwaith rhagorol a wneir ledled y wlad.