04/02/25
5 - 6 yh ar Zoom
IAP: Cathryn McShane
Cofrestrwch: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZItc-ygrz8sHdJzsbY7LQojgtGi-vGx3QX8
Pan ddeffrodd Cheryl Beer, Eco-Gerddolegydd a Gwneuthurwr Ffilmiau Cadwraeth, gyda cholled clyw, tinitws a hyperacusis, 7 mlynedd yn ôl, ni fyddai erioed wedi dychmygu y basai'n dechrau arfer creadigol newydd a fyddai’n ei chysylltu hi, a chynulleidfaoedd ledled y byd yn ddyfnach â byd natur. Wrth ymuno â ni fel siaradwr gwadd am ddigwyddiad Cwrdd Chwefror, bydd Cheryl yn sôn am ei hymchwil diweddaraf fel Cymrawd Cymru’r Dyfodol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, o’r enw ‘Natur Sonig: Synhwyro Gardd Cymru’, sydd wedi’i leoli yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, lle mae hi wedi creu Llwybr Ymchwil Artistiaid hybrid sydd wedi denu mwy na 3000 o ymwelwyr.
Meddai Cheryl:
"I ddechrau, gyda fy anghenion mynediad, roeddwn i'n cwestiynu sut y byddai'n bosib i fi gallu ymgysylltu ag ymwelwyr yr Ardd a’r gymuned leol, ond wrth anrhydeddu fy anghenion fy hun, creuais i fodel o weithio yn amryfus a oedd yn galluogi ymgysylltiad ehangach. Rydw i wir yn edrych ymlaen at rannu fy mewnwelediadau personol am Natur Sonig gydag aelodau Celfyddydau Anabledd Cymru, gan fy mod yn teimlo y bydd yr ystyriaethau rwyf wedi’u gwneud o fewn y gwaith yn atseinio gyda’u harferion creadigol nhw."
Os hoffech chi ymweld â Natur Sonig cyn ymddangosiad Cwrdd Cheryl, dyma ddolen: https://www.cherylbeer.com/fwf-cymraeg.html
Beth yw digwyddiadau Cwrdd Celfyddydau Anabledd Cymru?
Rydym yn defnyddio’r enw 'Cwrdd' oherwydd dyna yn union beth yw’r digwyddiad: cyfle i gwrdd lan ar gyfer bob aelod DAC! Dysgwch fwy am ein digwyddiadau Cwrdd yma: https://www.disabilityarts.cymru/cy/post/beth-yw-ein-digwyddiadau-cwrdd-misol