Mae'r trwmpedwr Tomos Williams yn mynd ar daith ledled Cymru (ac un perfformiad yn Llundain) â'i gywaith cerddorol, arloesol Cwmwl Tystion rhwng Dydd Iau 30ain o Fai - Dydd Sadwrn 8fed o Fehefin. Hwn bydd y drydydd a pennod ola'r prosiect sydd yn ymwneud â hanes, diwylliant ac hunaniaeth Gymraeg.

Y tro hwn bydd cerddorion rhyngwladol, byd enwog a rhai o gantorion ifanc, mwya dawnus Cymru yn ymuno yn y band.

Bydd lleisiau cyfarwydd Mared Williams ac Eadyth Crawford yn sichrau elfen gref Gymreig i'r perfformiadau, tra bydd y baswr Melvin Gibbs yn dod draw o Brooklyn, Efrog Newydd a'r gitarydd Nguyên Lê yn ymuno o Ffrainc. Bydd Mark O' Connor ar y drymiau a bydd celf weledol fyw Simon Proffitt yn ategu'r gerddoriaeth ym mhob perfformiad. Enw'r cywaith hwn bydd Cwmwl Tystion III / Empathy.

Mae Melvin Gibbs a Nguyên Lê yn gewri'r byd jazz yn rhyngwladol, a'r ddau yn enwog am ei defnydd o effeithiau electronig ar ei offerynnau. Galwyd Melvin Gibbs “The greatest bass player in the world” gan Time Out New York – mae wedi perfformio â pawb o Ornette Coleman i Henry Rollins, tra bod Nguyên Lê hefyd yn fyd-enwog am gyfuno dylanwadau o Vietnam gyda jazz - 'world jazz' neu 'jazz fusion'.

Mae Tomos yn angerddol am ddod a cerddorion rhyngwladol o'r safon ucha' i berfformio ledled Cymru, ac mae parodrwydd Melvin Gibbs a Nguyên Lê i ymgymryd â'r daith yn dyst i safon a bwriad y prosiect.

Teithiodd y bennod gynta' o Cwmwl Tystion – Cwmwl Tystion/Witness yn 2019  tra yn 2021 aeth Cwmwl Tystion II / Riot! a'r daith o Gymru â'r band y tro hwn yn cynnwys mawrion y byd jazz Prydeinig, Soweto Kinch ac Orphy Robinson. Cafodd y cyfansoddiad gwreiddiol y 'Riot! Suite' ei enwebu am wobr cyfansoddi Ivor Novello yn 2022 a cafodd yr albym Cwmwl Tystion / Witness ei enwebu am albym gorau'r flwyddyn yn 2021. Rhyddhawyd albym o gerddoriaeth y daith Cwmwl Tystion/ Riot! y llynedd yn ogystal.

Bydd y band yn perfformio gwaith newydd wedi'i gyfansoddi gan Tomos yr 'Empathy Suite' yn cynnwys elfennau gref o rock, jazz, cerddoriaeth werin Cymru, a byr-fyfyrio. Daw'r enw 'Cwmwl Tystion' o gerdd Waldo Williams 'Pa Beth yw Dyn?' tra bydd pob symudiad yn ymwneud â digwyddiad neu bennod yn hanes Cymru, e.e y Welsh Not, Aberfan 1966 a Streic y Glowyr 1984.

Dewisiwyd yr enw Saesneg 'Empathy' gan bod wir angen mwy o ddealltwriaeth a cydnabyddiaeth o brofiadau gwahanol ein cymdeithas ac wrth drafod yn y byd gwleidyddol yn gyffredinol ar hyn o bryd.

Yn cyfuno mawrion y byd jazz a cewri lleisiol ifanc Cymru mae Cwmwl Tystion III / Empathy yn argoeli i fod yn garreg-filltir i jazz o Gymru.

Bydd y daith yn ymweld â Pontio Bangor (Nos Iau 30ain o Fai)  Tŷ Pawb, Wrecsam (fel rhan o Wŷl y Wal Goch, Nos Wener 31ain o Fai), Theatr y Werin Aberystwyth (nos Sadwrn 1af o Fehefin) yna yn y Lost ARC Rhaeadr-Gwy (5ed o Fehefin) Theatr Soar, Merthyr Tydfil (6ed o Fehefin), Neuadd Dora Stoutzker, RWCMD Caerdydd (nos Wener 7fed o Fehefin)  a Llundain, Cafe OTO (8fed o Fehefin).

Dywed Tomos: “Nes i weld Melvin Gibbs yn perfformio yn y Tonic – clwb yn Lower East Side Efrog Newydd nôl yn 2001, a bydde ni byth wedi dychmygu ar y pryd y bydde ni yn rhanu llwyfan ag e ymhen ugain mlynedd! Mae ei fand Harriet Tubman wedi bod yn ddylanwad mawr arna i, ac ar y prosiect yma yn benodol, felly ma' cael un o'r cerddorion sydd wedi bod yn gymaint o ysbrydoliaeth i fy ngweledigaeth yn rhan o'r bennod ola' yma wir yn anhygoel! Does neb yn chware'r bas fel Melvin, a'i holl effeithiau electronig – ac mae'r un peth yn wir am Nguyên Lê. Weles i Nguyên yn perfformio yng Ngwyl Jazz Aberhonddu nifer o weithiau dros y blynyddoedd, felly bydd yn fraint i rannu llwyfan ag e' hefyd. Yn ddiddorol – dyw Melvin nag Nguyên erioed wedi perfformio â'i gilydd – felly bydd hyn yn digwydd am y tro cynta' yng Nghymru!”

“Ma Mared ac Eadyth yn adnabyddus yng Nghymru ac wedi bod ar fy 'radar' ers rhai blynyddoedd. Roedd Eadyth yn rhan o Cwmwl Tystion II ac mae hefyd wedi perfformio gyda fy mand 'Khamira' – felly dwi'n reit gyfarwydd o gydweithio â Eadyth erbyn hyn. Ma hi wir yn arbennig. Tra bod Mared wedi dennu fy sylw fel un o leisiau mwya pwerus a cerddorol Cymru. Roedd hi'n anhygoel yn Branwen:Dadeni. Roeddwn yn awyddus iawn i'r ddwy rannu'r llwyfan fel rhan o'r prosiect yma, a dwi wir yn edrych mlaen clywed y cyfuniad o'i lleisiau pwerus wedi cyfuno â'r bas, y gitar ar dryms.”

“Mark a Simon yw'r unig ddau artist sydd wedi bod ynghlwm â pob pennod o Cwmwl Tystion – galla i ddim dychmygu gweithio ar hwn heb ei crefft, ei creadigrwydd a'i dychymyg erbyn hyn. Ma'r celf weledol fyw wir yn adio rhywbeth ychwanegol at bob perfformiad.”

Ariannwyd taith Cwmwl Tystion III / Empathy gan nawdd oddi wrth Cyngor y Celfyddydau Cymru, tra bod cyfansoddi'r 'Empathy Suite' wedi'i ariannu gan Tŷ Cerdd.