Mae Jones y Ddawns yn falch iawn o gyhoeddi y bydd, unwaith eto, yn bartner y DU i’r prosiect Ewropeaidd International Contemporary Dance Collective / iCoDaCo ar gyfer fersiwn 2024-2027, gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Wales Arts International.

Bydd y cwmni dawns o Gymru yn ffurfio casgliad o artistiaid dawns o Gymru a Byddar i ymuno â naw cydweithfa Ewropeaidd arall yn un o’r prosiectau dawns mwyaf eang a blaengar, a fydd yn gweld creu llwyfan digidol agored cyntaf y byd i ddawns gyfoes. Sefydlwyd iCoDaCo yn wreiddiol gan y cwmni dawns o Sweden, ilDance yn 2012 a dyma’r pumed fersiwn, a’r mwyaf, a’r pedwerydd tro i Jones y Ddawns fod yn bartner pwysig.

Bwriad iCoDaCo 2024/27 yw gwella’r cyfleoedd i artistiaid dawns gyfoes, eu cynhyrchwyr, cyflwynwyr, cymunedau a chynulleidfaoedd ar draws Ewrop a thu hwnt, gan leihau’r effaith y mae dawns yn ei gael ar adnoddau byd-eang. 

Bydd y prosiect yn dwyn yr artistiaid dawns gyfoes at ei gilydd mewn cydweithfa yng Nghymru fel yr unig gydweithfa o’r Deyrnas Unedig. Byddant yn ymuno â chydweithfeydd o Georgia, Hwngari, Sweden, Sbaen ymhlith eraill o bob cornel o Ewrop. Byddant yn gweithio’n lleol gan gysylltu’n ddigidol ar yr un pryd â’i gilydd yn ystod 15 preswyliad ymchwil. Bydd eu hymchwil gyda’i gilydd yn ffurfio gwybodaeth newydd mewn creu, dulliau ac arferion dawns a fydd yn arwain at ffurfio'r llwyfan digidol agored i ddawns fydd ar gael yn fyd-eang fel offeryn ymchwil ac ymarfer o ddiwedd 2026.

Bydd y dull hwn yn edrych ar ddulliau arloesol o greu dawns yn y cyd-destun rhyngwladol, lleihau effaith amgylcheddol teithio, yn ogystal ag ystyried costau cydweithio rhyngwladol, a hygyrchedd. Mae Jones y Ddawns yn arwain y ffordd yng Nghymru wrth chwilio am ffyrdd i ymdrin â’r effaith y mae Brexit wedi ei gael ar y DU a’r sector diwylliannol rhyngwladol. Bydd y prosiect yn archwilio sut y gall dawns fod yn adnodd i gryfhau’r cyfraniad at sectorau eraill fel y byd academaidd, ac iechyd a llesiant. Bydd y llwyfan ar-lein yn cael ei lansio yn 2026, ac yna bydd gŵyl ddawns ar draws Ewrop am fis yn hwyr yng ngwanwyn 2027, yn dangos 10 gwaith newydd sydd wedi eu creu o’r prosiect, a bydd nifer ohonynt ar gael i gynulleidfaoedd Cymru yn 2027.

"Er bod iCoDaCo 2024-2027 yn brosiect braidd yn fawr, caiff ei wireddu yn bennaf gan fudiadau bach i ganolig ledled Ewrop a thu hwnt. Mae’r cyrch yr ydym yn dechrau arno a chyfluniad y bartneriaeth yn cyfateb yn uniongyrchol i’r heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol a wynebwn yn y maes dawns cyfoes a’r sector celf a diwylliant.
Rydym angen ffyrdd eraill i gychwyn a gwireddu prosesau artistig sy’n parchu’r gorffennol ond sy’n caniatáu i bethau newid i gynnig ffordd fwy cynaliadwy a gwydn o fod yn artistiaid ac asiantau diwylliannol yn y 21ain ganrif. Mae’r egni amlwg a roddodd ymroddiad ac ymrwymiad degau o artistiaid i’r prosiect yn arwain at gyfraniadau gwerthfawr i ddawns gyfoes, y sector celfyddydol a diwylliannol a’n cymunedau wrth i ni symud yn ddyfnach i’r 21ain ganrif.” Israel Aloni, Cyfarwyddwr Artistig ilDance a phrosiect  iCoDaCo.

Bydd Cydweithfa Cymru yn cael ei harwain gan Gyfarwyddwr Artistig Jones y Ddawns a’r coreograffydd Gwyn Emberton, yr artist dawns Byddar Anna Seymour (dawnsiwr gyda Candoco) a’r coreograffydd Jo Fong, gyda chyfleoedd i artistiaid eraill gymryd rhan ar amseroedd gwahanol. Bydd y breswylfa gyntaf yn digwydd yn Nhrefaldwyn, Powys a bydd y preswylfeydd dilynol yn digwydd ar draws Cymru gyda’r partneriaid Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Theatr Clwyd ymhlith eraill, a gwahoddir i’r gydweithfa ymuno â’r cydweithfeydd o Bortiwgal, Denmarc a Gweriniaeth Siec yn 2025 a 2026. 

"Rydym newydd gael ein wythnos preswyliaeth gyntaf oedd yn llawn iawn ac mae’n gyffrous iawn ail-feddwl o ddifri am ddawns a chysylltu gyda chymunedau lleol a rhyngwladol.” Anna Seymour

Mae’r prosiect a’i gyrraedd eisoes yn fy synnu. Mae’n brosiect mor brin gyda photensial enfawr. Gan weithio’n rhyngwladol ac yn lleol, edrychaf ymlaen at y dysgu a gwaddol diwylliannol yr astudiaeth.” Jo Fong.

Mae bod yn rhan o iCoDaCo mor bwysig i Jones the Dance: i fod yn gwneud cysylltiadau cyffrous gyda chwmnïau dawns ac artistiaid ledled Ewrop, bod yn rhan o brosiect enfawr fydd yn trawsnewid dawns gyfoes a medru rhannu gwaith artistiaid Cymru gyda’r byd. Ni yw’r unig gwmni yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig i fod yn rhan o’r cywaith a fedrwn ni ddim ymfalchïo mwy yng ngwaith yr holl dîm.” Kate Perridge, Cynhyrchydd Gweithredol, Jones Y Ddawns. 

Bydd y rhai sy’n chwilfrydig am y datblygiad a chreu dawns yn cael eu gwahodd i sgyrsiau a gweithdai trwy gydol y prosiect yn ogystal â gallu dilyn y prosiect ar-lein. 

Ceir rhagor o wybodaeth am iCoDaCo 2024-2027 yn https://www.icodaco.com

Ceir rhagor o wybodaeth am Gydweithfa Cymru yn: https://www.Jonesthedance.com/icodaco