Yn dilyn perfformiadau ar hyd a lled Ewrop yn ystod y gwanwyn, a welodd pob tocyn yn cael ei werthu, mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i lwyfannau’r Deyrnas Unedig gyda rhaglen ddwbl o ddawns ddynamig. Bydd Gorwelion yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd brofi dau fyd gwahanol; trwy feddwl am y byd yr ydym yn byw ynddo heddiw, ac edrych tuag at y dyfodol. 

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn adnabyddus am ei berfformiadau llawn ysbrydoliaeth, sydd wedi’u saernïo’n wych, ac yn cyfuno coreograffi trawiadol, gwaith dylunio rhyfeddol a cherddoriaeth newydd. 

Mae ‘Gorwelion’ yn cynnwys dau berfformiad sy’n gymysgedd o symudiadau syfrdanol a storïau ystyrlon. 

Mae’r rhaglen ddwbl yn cynnwys y perfformiadau cyntaf o ‘AWST’ gan Gyfarwyddwr Artistig y cwmni, Matthew William Robinson, a ‘Skinners’ gan Melanie Lane – sef coreograffydd o Awstralia sy’n hanu o dreftadaeth Ewropeaidd a Jafanaidd. 

AUGUST fydd un o dri o weithiau olaf Matthew i’r cwmni cyn iddo adael i gymryd yr awenau fel Cyfarwyddwr Artistig ŻfinMalta ym mis Ionawr 2025. 

”Ers 2021, rwyf wedi cael yr anrhydedd o arwain y cwmni, gan gydweithio ag ensemble arbennig o artistiaid a gweledyddion. Gyda’n gilydd, rydym wedi creu 14 darn o waith newydd, wedi teithio ar hyd a lled Cymru ac wedi mynd â’n gwaith o Gymru at gynulleidfaoedd yng ngweddill y Deyrnas Unedig, yn Korea, yn yr Almaen, yn Ffrainc, yn Lwcsembwrg ac yn yr Eidal. Rwyf wedi bod wrth fy modd yma yng Nghymru, yn gweithio gyda’r cwmni, a byddaf yn mynd â phopeth rwyf wedi’i ddysgu a’i brofi gyda mi. Gan fod hwn yn un o’m cynyrchiadau olaf, rwyf mor falch y byddwn ni’n teithio ledled Cymru i’w gyflwyno, fel y galla i grwydro’r dirwedd anhygoel hon un tro olaf, am nawr” dywed Matthew Robinson, Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru.

Mae hanner cyntaf y rhaglen ddwbl, sef darn 30 munud o’r enw AUGUST, yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng Matthew William Robinson, dawnswyr y cwmni, y cyfansoddwr Torben Sylvest, a’r dylunwyr George Hampton Wale ac Emma Jones. 

Mae AUGUST yn arddangos medrusrwydd athletaidd dawnswyr Cymru ac mae wedi’i osod ar gyfeiliant dyfeisgar sy’n ymgorffori synau peiriannau. Mae’r dawnswyr wedi’u gwisgo mewn siwtiau wedi’u tynnu’n ddarnau, sy’n tywynnu’n wefreiddiol yn y golau neon a ysbrydolwyd gan fachlud yr haul. 

“Mae AUGUST yn ymdrin â her ansicrwydd ac ymadael, gan ystyried y tensiwn rhwng y person oedden ni a’r person y byddwn ni’n datblygu i fod yn ystod cyfnod o newid. Mae wedi’i ysbrydoli gan y cyfnod yn dilyn marwolaeth fy nhad, a’r ffordd y mae’r profiad hwnnw wedi dylanwadu, ac yn parhau i ddylanwadu, ar fy mywyd. Dydy’r gwaith ddim yn hunangofiannol o gwbl. Rwy’n gobeithio y bydd yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd ystyried newid yn eu bywydau eu hunain, a gweld dawnsio rhagorol ar yr un pryd” meddai Matthew. 

Bydd ail hanner y digwyddiad, sef ‘Skinners’ gan Melanie Lane, yn tywys cynulleidfaoedd i dirwedd ddigidol sy’n pylu ffiniau realiti. Bydd cerddoriaeth electronig a goleuadau’n llenwi’r llwyfan wrth i wisgoedd dramatig ganiatáu i’r dawnswyr drawsffurfio rhwng bod yn rhithffurfiau picseledig dau ddimensiwn ac yn fodau dynol.

”Roedd gweithio gyda Melanie yn brofiad hyfryd. Mae hi wedi creu rhywbeth hynod rymus gyda’r dawnswyr, sy’n manteisio ar holl ystod eu sgiliau corfforol ac yn ei ymestyn ymhellach. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl siwrnai gyffrous yma. Mae’r symudiadau’n curo, wrth i’r dawnswyr ymdrin â phatrymau symudiadau a pherthnasoedd cymhleth, gan lithro i mewn ac allan o gysylltiad a threfniant. Daw’r gwaith i ben â gwaith partner hynod gynhyrfus, wrth i’r dawnswyr godi a thaflu ei gilydd ar draws y llwyfan. Mae’n eich annog i ystyried cymuned a chysylltiad fel ffordd o ymdrin â’n heriau personol a chyffredinol” meddai Matthew. 

Ochr yn ochr â ‘Gorwelion’, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn mynd ar daith gyda’u sioe boblogaidd i ysgolion a theuluoedd, sef ‘Lea Anderson’s Zoetrope’. Sioe awr o hyd yw Zoetrope, a cheir cynlluniau gwersi ar gyfer athrawon i gyd-fynd â’r sioe. Mae Zoetrope ar gael gyda disgrifiad sain ym mhob lleoliad. 

“Cysylltwch â ni os ydych yn ysgol sydd â diddordeb mewn helaethu eich cwricwlwm celfyddydau mynegiannol gyda thrip i’ch theatr leol” dywedodd Matthew. 

Mae cynulleidfaoedd sy’n profi’r bydoedd a gaiff eu creu ar y llwyfan gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn dod o’r perfformiadau wedi’u bywiogi a’u hysbrydoli gan ddoniau arbennig y dawnswyr. 

Dilynir pob perfformiad â sgwrs, pryd y gall cynulleidfaoedd ddysgu rhagor am y gwaith, ynghyd a bywyd fel dawnsiwr proffesiynol; cyflwynir nifer o’r sgyrsiau hyn gyda chefnogaeth dehongliad BSL.  

Cefnogir y daith trwy haelioni Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston. 

Bydd Gorwelion yn teithio o fis Medi i fis Tachwedd 2024, gan ymweld â Chaerdydd, Henffordd, Abertawe, Llundain, Aberhonddu, y Drenewydd, Bangor, Huddersfield ac Aberystwyth. 

I archebu tocynnau ar gyfer Gorwelion, neu i gael rhagor o wybodaeth am Zoetrope, gall cynulleidfaoedd ymweld â ndcwales.co.uk