Mae Ffilm Cymru Wales yn cefnogi pump yn rhagor o sinemâu annibynnol a gŵyl ffilmiau sy’n rhoi profiadau sinematig cyffrous i gynulleidfaoedd ledled Cymru.

Gyda chyllid gan y Loteri Genedlaethol, mae Ffilm Cymru Wales yn rhoi cymorth i arddangoswyr ffilmiau annibynnol i ddifyrru ac ysbrydoli pobl ledled y wlad gyda mwy o ddewis o ffilmiau. Fel rhan o ymrwymiad y sefydliad i arloesi, cynhwysiant a chynaliadwyedd, mae eu Cronfa Arddangos Ffilmiau yn annog sinemâu a gwyliau ffilmiau i ddatblygu eu gwaith mewn sector esblygol, gan gysylltu eu cymunedau lleol trwy sinema. 

Y llynedd, rhannodd saith o wyliau ffilmiau a sinemâu cymunedol £63,500 o gyllid yng nghylch cyntaf Ffilm Cymru Wales yn 2023-24, gan gynnwys Gŵyl Arswyd Ryngwladol Abertoir, Gŵyl Animeiddio Caerdydd a Gŵyl Ffilmiau LGBTQ+ Gwobr Iris. Nawr, mae Ffilm Cymru Wales wedi ariannu’r sefydliadau canlynol:

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Wedi’i leoli ar gampws Prifysgol Aberystwyth, mae’r lleoliad aml-gelfyddydol yn ymfalchïo mewn darparu profiad sinema amrywiol i gynulleidfaoedd ledled canolbarth Cymru. Bydd cyllid Ffilm Cymru Wales yn cynorthwyo’r sinema annibynnol i gyflwyno rhaglen amrywiol a chynhwysol sy’n canolbwyntio ar ffilmiau mewn ieithoedd tramor, yn ogystal â dangosiadau hygyrch ar gyfer pobl f/Fyddar a Thrwm eu Clyw, dangosiadau hamddenol i rieni a phobl niwroamrywiol, ac i’w sefydlu ei hun fel lleoliad sy'n ymateb i ddiddordebau ac anghenion y gymuned leol.

Canolfan Gelfyddydau Chapter
Bydd sinema annibynnol a chanolbwynt creadigol Caerdydd yn defnyddio eu cyllid i ychwanegu gwerth at eu rhaglen drwy sesiynau Holi ac Ateb byw, cyflwyniadau wedi'u recordio ymlaen llaw a rhaglen o ffilmiau clasurol, gan sicrhau bod eu cynulleidfaoedd yn ymwneud â ffilmiau ac yn cael eu hysbrydoli ganddyn nhw. Bydd Chapter hefyd yn cynnal Clwb Ffilmiau Byddar, yn datblygu lleisiau o gynulleidfa’r Mwyafrif Byd-eang, ac yn hybu datblygiad ffilmiau Cymraeg drwy ddangosiadau a thrafodaethau. 

Galeri Caernarfon
Bydd cyllid Ffilm Cymru Wales yn helpu’r ganolfan gelfyddydau i roi ei chymunedau lleol wrth galon ei gwaith, datblygu arferion busnes mwy cynhwysol a chynaliadwy, a chynhyrchu cyfoeth cymunedol. Bydd hyn yn cynnwys eu prosiect blaenllaw SPOT - rhaglen hyfforddiant o weithdai, dosbarthiadau meistr a dangosiadau ar gyfer rhai yn eu harddegau ac oedolion ifanc sy’n wneuthurwyr ffilmiau er mwyn meithrin a dathlu creadigrwydd lleol.

The Magic Lantern
Wedi’i sefydlu yn Nhywyn, tref glan môr yn y canolbarth gwledig, dangosodd y sinema annibynnol un sgrin hon ei ffilm gyntaf ym 1901. Wrth gadw ei rhaglen o sinema gelfyddydol, glasurol a phrif ffrwd sy’n croesawu pob cynulleidfa, bydd Y Llusern Hud hefyd yn rhoi ei chyllid tuag at daflunydd newydd. 

Canolfan Gelfyddydau Memo
Wedi’i hadeiladu yn y Barri ym 1932, Canolfan Gelfyddydau Memo erbyn hyn yw’r lleoliad cyfunol mwyaf i’r celfyddydau ym Mro Morgannwg, a’r unig sinema sydd ar agor. Bydd cyllid Ffilm Cymru Wales yn cynorthwyo’r ganolfan i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion lleol, cartrefi gofal a sefydliadau cymunedol i ddarparu dangosiadau fforddiadwy a gweithgareddau creadigol i deuluoedd, dangosiadau hamddenol sy’n ystyriol o awtistiaeth, a dangosiadau newydd yn y prynhawn i rai 60+ oed gyda phecyn lletygarwch. 

Gŵyl Ffilmiau Cymru a’r Byd yn Un WOW 
WOW yw gŵyl sinema’r byd sydd wedi rhedeg hiraf ym Mhrydain. Ers 22 mlynedd, mae WOW wedi dod ag amrywiaeth eang o’r ffilmiau rhyngwladol gorau i sinemâu ledled Cymru. Ym mis Mawrth 2024, cynhaliodd yr ŵyl 30 dangosiad a phum digwyddiad arbennig yn Aberystwyth, Bangor, Aberteifi, Abergwaun ac Abertawe, gan gynnwys AberCon, confensiwn anime WOW mewn partneriaeth â Mencap Ceredigion, a Creating Safer Space, sef cydweithrediad rhyngwladol sy’n cefnogi sifiliaid heb eu harfogi sy’n byw yng nghanol gwrthdaro treisgar.

Yn ogystal â’r cyllid, mae Ffilm Cymru Wales yn partneru â Chanolfan Ffilm Cymru i gynnig gweithdai datblygu busnes a hyfforddiant un-i-un wedi’i deilwra i sinemâu a gwyliau ffilmiau, dan arweiniad Mustard Studio. Bydd y gwasanaeth amhrisiadwy hwn yn cynorthwyo sinemâu Cymru i roi ffocws ar eu cynulleidfaoedd, rhoi cyhoeddusrwydd i’w brandiau ac adeiladu busnesau cynaliadwy.  

Wrth gyflwyno’r cymorth newydd hwn, dywedodd Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales, Lee Walters: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn partneru gyda Chanolfan Ffilm Cymru i gynnig y pecyn hwn o ddatblygiad busnes a hyfforddiant un-i-un wedi’i deilwra i arddangoswyr dan arweiniad Mustard Studio. Mae sinemâu yn gonglfeini diwylliannol allweddol sy’n tanio dychymyg ac yn ysgogi breuddwydion cynulleidfaoedd ledled Cymru. Drwy’r gwaith hwn, gobeithiwn y gallwn helpu i gynyddu gwytnwch a chynaliadwyedd y sector arddangos hanfodol.”

Meddai Hana Lewis, Rheolwr Strategol Canolfan Ffilm Cymru: “Mae arddangoswyr yn parhau i addasu i’r amgylchedd cyfnewidiol y maen nhw ynddo, sy’n cael ei ffurfio gan ffactorau fel yr argyfwng costau byw yn ogystal â’r materion gwleidyddol, diwylliannol ac amgylcheddol ehangach sy’n effeithio ar eu cymunedau. Mae eu timau bach yn brysurach nag erioed, ac mae mwyfwy o angen iddyn nhw ddenu cynulleidfaoedd a sicrhau cyllid allanol – gan addasu eu hadeiladau a'u cynlluniau busnes yn barhaus. Gobeithiwn y bydd y sesiynau hyn yn cynnig rhywfaint o gymorth ychwanegol ar adeg hollbwysig.”

Bydd cylch newydd Cronfa Arddangos Ffilmiau Ffilm Cymru Wales yn agor ar 28 Mai 2024, a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 8 Gorffennaf.

CEWCH WYBOD MWY FAN HYN