Sgyrsiau rhithwir: archebwch eich lle ar naill neu’r llall o'r sesiynau canlynol;

Dydd Mercher 10 Mawrth 2021

Sesiwn 1: 10.00 - 12.00 (hyd at 50 yn medru mynychu)

Sesiwn 2: 14.00 - 16.00 (hyd at 50 yn medru mynychu)

Cyd-destun

Gofynnir i bob prosiect Cyswllt a Ffynnu llwyddiannus lunio cytundeb cydweithredu yn ystod y misoedd cyntaf eu prosiect, fel rhan o'r gofynion ar gyfer derbyn cyllid. Nid yw Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweld y Cytundebau Cydweithio hyn fel ymarfer ‘ticio blwch’, ond yn hytrach fel proses a fframwaith hyblyg ar gyfer cynnal trafodaeth, y gellir ei theilwra i helpu partneriaid craidd y prosiect i ddod â’u partneriaeth yn fyw.

Er mwyn trafod sut i gael y gorau o'ch cytundebau cydweithredu, byddwn yn cynnal dwy sesiwn 2 awr ar 10 Mawrth. Bydd y ddwy sesiwn yn union yr un peth - dewiswch naill ai sesiwn y bore neu'r prynhawn.

Nod y Sesiwn:

Mae pob sesiwn yn gyfle i ddod i wybod rhagor am:

- yr hyn y mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ei olygu wrth y term ‘cydweithredu’

- beth yw cytundebau cydweithredu, a sut, o fabwysiadu dynesiad hyblyg i weithio o’i fewn, y gall hyn helpu i ddod â’r cydweithio yn fyw

- enghreifftiau ymarferol o gytundebau cydweithredu

Ar gyfer pwy mae'r sesiynau hyn?

Bydd y sesiynau o ddiddordeb i'r rhai sy'n ystyried cyflwyno cais am grant Cyswllt a Ffynnu, sydd wedi derbyn grant Cyswllt a Ffynnu, neu sydd â diddordeb cyffredinol mewn gweithio ar y cyd o fewn y celfyddydau.

Dynesiad

Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal y cyfarfod, trwy gynnal trafodaeth â Lindsey Colbourne [hwylusydd ac artist sydd wedi bod yn gweithio gyda chytundebau partneriaeth ers 20 mlynedd], ac Iwan Williams, Ffiwsar sydd ar hyn o bryd yn gweithio trwy gytundeb cydweithredu ar gyfer prosiect a ariennir gan Cysylltu a Ffynnu, Dyffryn Dyfodol. Bydd yr arddull yn anffurfiol, gan annog myfyrio personol, cwestiynau a mewnbwn gan gyfranogwyr trwy’r sesiwn gyfan.

Sesiynau galw heibio

Mae Cyngor y Celfyddydau wedi trefnu sesiynau galw heibio hefyd ar yr 2 a'r 4 Mawrth - cliciwch yma er mwyn cael rhagor o fanylion ac amser y sesiynau.