Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi y bydd dyddiadau diwygiedig ar gyfer ail rownd cronfa Cysylltu a Ffynnu – cronfa’r Cyngor a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol, sydd â’r nod o annog prosiectau cydweithredol rhwng sefydliadau, unigolion a gweithwyr creadigol proffesiynol.

Bydd y gronfa nawr ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng 17 Chwefror ac 17 Mawrth.

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau  Cymru heddiw:

"Math newydd o gronfa yw Cysylltu a Ffynnu sy'n annog ffyrdd gwahanol a mwy cydweithredol o weithio.  Mae yn rhoi  cyfle  hefyd  i leisiau nas clywyd o'r blaen i gyfrannu  tuag at wneud y celfyddydau yng Nghymru yn fwy cynrychioliadol a hygyrch. Yn y rownd gyntaf dosbarthwyd £2.3m a nod yr ail rownd yw dosbarthu hyd at £2.7m pellach.

"Rydym wedi myfyrio'n  ofalus ar yr hyn a ddysgon ni o'r rownd gyntaf o geisiadau ac mae'r cyfyngiadau diweddaraf, ynghyd ag adborth  gan y sector, wedi ein darbwyllo bod angen i ni wneud addasiadau i rai  agweddau ar y Gronfa.  Mae hyn yn golygu y dylem allu ymateb yn haws i ystod ehangach o  ymgeiswyr, megis gwyliau,  y mae llawer ohonynt wedi dod o hyd i  ffyrdd arloesol o gyflwyno gweithgarwch sy'n cydnabod heriau Covid. O ystyried yr ystod o gyngor defnyddiol a gawsom, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig treulio ychydig o amser ychwanegol er mwyn cael y manylion yn iawn."

Bydd set lawn o nodiadau canllaw – gan gynnwys mewn gwahanol fformatau megis EasyRead a BSL – ar gael adeg agor y gronfa i geisiadau, a byddant yn cael ei cyhoeddi ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cyhoeddwyd manylion y ceisiadau llwyddiannus i rownd gyntaf y gronfa ym mis Rhagfyr 2020, gyda 33 o brosiectau wedi'u cymeradwyo, sef cyfanswm o £2.3m. Mae Cysylltu a Ffynnu yn cynnig grantiau o rhwng £500 a £150,000 ar gyfer prosiectau gyda phwyslais cryf ar gydweithio rhwng artistiaid unigol, grwpiau nad ydynt o fewn y sector gelfyddydol a sefydliadau celfyddydol gyda'r nod o annog syniadau newydd a fydd yn cefnogi artistiaid i wynebu'r heriau a gyflwynwyd gan y pandemig a chefnogi sector gelfyddydol gref a gwydn sy'n adlewyrchu pobl a chymunedau ein gwlad yn briodol.

I gael rhagor o wybodaeth, ac i wneud cais i gronfa Cysylltu a Ffynnu, ewch at https://arts.wales/cy/ariannu/gwneud-cais/sefydliadau/cysylltu-ffynnu

DIWEDD                                             Dydd Mercher 13 Ionawr 2021