Mae Creu'n ariannu datblygu a chreu profiadau celfyddydol o safon sy'n cynnwys y  cyhoedd.

Rhoddwyd grantiau rhwng £5,000 a £100,000 i’r celfyddydau gweledol, y theatr a dawns:

Nabod

Bydd Cwmni'r Frân Wen ym Mhorthaethwy yn gweithio gyda Gisda (elusen sy'n cefnogi pobl fregus rhwng 16 a 25 oed), Cardbord Citizens (cwmni theatr sy'n gweithio gyda phobl ddigartref) a thîm o artistiaid llawrydd i wneud prosiect newydd gyda grŵp o bobl ifanc ddigartref.

Ymgyrch Julie

Bydd Theatr Na N’Óg yng Nghastell-nedd yn gweithio gyda Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar ddrama gerdd newydd sy'n olrhain stori anhygoel Ymgyrch Julie gan heddlu'r 1970au i atal rhwydwaith cynhyrchu LSD yn y Gorllewin.

Plethu a'r Arddorfa

Mae’r Urdd wedi cael arian am 5 prosiect cymunedol dan arweiniad pobl ifanc i greu ardal ecogyfeillgar yn Eisteddfod yr Urdd.

Milky Peaks

Cafodd Theatr Clwyd arian i wneud taith o amgylch 7 lleoliad gyda Milky Peaks sy’n cynnwys comedi, gwleidyddiaeth a Cheltiaid mewn drag yn ogystal â sawl cân bop wych.

Shoulder to Shoulder

Dyma opera gymunedol un act gan Opera Dinas Abertawe mewn partneriaeth â Men's Sheds am iechyd meddwl dynion.
 

Llwybr Arfordir Cymru (yn y dyfodol)

Bydd yr artist Alison Neighbour yn gweithio ar brosiect celfyddydol gweledol sy'n ymateb i'r cynnydd yn lefel y môr a'n cyfrifoldebau am y dyfodol. Bydd yn cynnwys celfyddyd, gwyddoniaeth, technoleg a lleoli ac yn gwahodd cymunedau’r De i ystyried y dyfodol.

Mae rhestr lawn o bob grant llwyddiannus yma: https://arts.wales/cy/resources/create-round-2-recipients

Meddai Richard Nicholls, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae Creu'n cynnig cyfleoedd i unigolion a sefydliadau greu a chyflwyno gwaith mewn partneriaeth â gwahanol gymunedau a all gynnwys datblygu syniadau, hyfforddi neu dyfu busnes.

Mae Creu’n cefnogi ein hymrwymiad i gynnig mynediad teg i bawb i'r celfyddydau gan feithrin y Gymraeg, amrywiaeth a’n holl ddoniau."