Ym mis Gorffennaf 2024, bydd Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe yn agor arddangosfa newydd, Out of this World, gan yr artist Heather Phillipson, a enwebwyd am Wobr Turner 2022.
Yn Out of this World, arddangosfa unigol fawr gyntaf yr artist o waith newydd ers ei henwebu am Wobr Turner, mae Heather Phillipson yn cofnodi dilyniant o amgylchiadau sonig ac atmosfferig sy'n cyfleu awyrle, awyrofod a’r gofod. Gan ymateb i gyfathrebiadau annaearol radar, sonar a ffenomenau awyr anhysbys, mae Phillipson yn llenwi orielau Glynn Vivian â synau awtomataidd wedi’u tiwnio a delweddau wedi’u disylweddu sy’n arnofio ac yn pylsadu, gan greu’r hyn y mae hi’n ei alw’n ‘niwl gweledol ac acwstig’. Mae'r niwl hwn, fel rhai agweddau ar ryfela, yn rhithweledol - yn cynhyrchu drychiolaethau, rhagfynegiadau a ffantasmagoria. Trwy roi sylw i sain fel grym sy’n trawsgyweirio deinameg ffisegol ac affeithiol, mae Out of this World yn mapio maes dirgrynol sy’n gweithredu bron yn feteorolegol.
Mae Out of this World yn rhan o Gronfa Etifeddiaeth14-18 NOW yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM), rhaglen bartneriaeth genedlaethol sy’n cynnwys dros 20 o gomisiynau gan artistiaid a ysbrydolwyd gan dreftadaeth gwrthdaro. Dan arweiniad yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol, crëwyd Cronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM yn dilyn llwyddiant 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydau swyddogol y DU i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r rhaglen gomisiynu gwerth £2.5 miliwn yn bosibl diolch i lwyddiant ffilm glodwiw Peter Jackson, They Shall Not Grow Old, a gomisiynwyd ar y cyd gan IWM a 14-18 NOW.
Meddai Heather Phillipson, “Mewn ffordd, mae fy holl waith yn ymwneud â gwrthdaro, o’r mud, mewnol a microcosmig, i’r cynddeiriog, byd-eang a macrocosmig. Mae’n rhodd cael gwahoddiad i ystyried y syniadau hyn ar y cyd â’r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, yn enwedig yn ystod y cyfnod ingol hwn o wrthdaro, a chael gwneud hynny yng Nghymru, gwlad chwedloniaeth a dirgelwch.”
Dywedodd Rebecca Newell, Pennaeth Celf yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol: “Mae Out of this World yn tanio’r dychymyg trwy olygfeydd a synau annisgwyl, gan ymgysylltu’n haniaethol â phrofiadau gweledol o wrthdaro, a gobaith yn y pen draw. Trwy Gronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM, rhaglen gomisiynu celfyddydau genedlaethol yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol, rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno’r gwaith newydd toreithiog a llawn awyrgylch hwn gan Heather Philipson ar y cyd ag Oriel Glynn Vivian.”
Dywedodd Karen MacKinnon, Curadur Oriel Glynn Vivian: “Rydym wrth ein bodd yn cael cydweithio â Heather Phillipson. Mae ei gwaith yn aml yn wrthdaro rhwng deunyddiau gwahanol iawn a ffyrdd gwahanol iawn o weithio. Clystyrau swrealaidd, barddonol, yn ymwneud â syniadau taer a radical ein hoes. Bydd y prosiect hwn yn creu naratifau a sgyrsiau newydd mewn ffyrdd y gall neb ond artistiaid eu creu, a bydd yn rhoi cyfleoedd anhygoel i gynulleidfaoedd ymgysylltu a chyfranogi mewn gwaith celf unigryw y gellir ymgolli’n llwyr ynddo.
“Mae Cronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM yn llwyr gefnogi ac yn caniatáu i greadigrwydd ac uchelgais ffynnu, gan greu rhwydweithiau ac etifeddiaeth lleol a chenedlaethol hirhoedlog ac mae’n ein hatgoffa ni o bwysigrwydd a gwerth celf a diwylliant yn y cyfnod cythryblus hwn.”
Ochr yn ochr â’r comisiwn newydd hwn mae gweithiau celf yn cael eu harddangos, wedi’u dethol gan yr artist, o blith Casgliad yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM) ac Oriel ac Amgueddfa Castell Cyfarthfa, yn ogystal ag arddangosfa o gasgliad parhaol Oriel Glynn Vivian.
I gyd-fynd â rhaglen Heather Phillipson: Out of this World, ceir rhaglen gyhoeddus, dysgu ac ysgolion, gan gynnwys gweithdai cymunedol creadigol, llwybrau oriel, digwyddiadau gyda’r hwyr, a sgyrsiau gan artistiaid a’r diwydiant. I gael rhagor o wybodaeth, cofrestrwch i fod yn rhan o restr bostio Oriel Glynn Vivian.
Mae Heather Phillipson: Out of this World yn gomisiwn gan Gronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM trwy bartneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian.
Heather Phillipson: Out of this World
Dyddiadau’r Arddangosfa, 12 Gorffennaf 2024 - 26 Ionawr 2025
Oriel Glynn Vivian Gyda’r Hwyr, Dydd Iau 11 Gorffennaf 5:30pm – 8:00pm