Mae’n bleser gan Oriel Gelf Glynn Vivian a’r artist arobryn sy’n frwdfrydig dros Spider-man, Hetain Patel ac Artangel, gyflwyno Come As You Really Are | Abertawe Agored 2025.
Bydd yr arddangosfa gyffrous hon yn cael ei chynnal rhwng 15 Chwefror a 27 Ebrill, gan arddangos gwrthrychau unigryw o waith llaw, gyda chyfraniadau gan gasglwyr a hobïwyr fel gwneuthurwyr gwisgoedd a gwisg-chwarae, peintwyr, croswyr a gwewyr, gwneuthurwyr modelau, peirianwyr roboteg, arbenigwyr origami a llawer mwy.
Caiff yr arddangosfa ei churadu gan yr artist Hetain Patel ar y cyd ag Oriel Gelf Glynn Vivian a bydd mewnbwn gan grwpiau cymuned ddysgu’r oriel. Mae Hetain Patel wedi creu’r prosiect cenedlaethol Come As You Really Are gydag Artangel, sy’n cynnwys 13 o gyflwyniadau rhanbarthol ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban rhwng haf 2024 a 2026.
Mae Hetain Patel hefyd yn cyflwyno gwaith fel rhan o’r arddangosfa. Bydd ffilm newydd gan Patel sydd wedi’i chomisiynu ar y cyd gan Artangel a phartneriaid sy’n archwilio creadigrwydd a brwdfrydedd pobl dros eu hobïau yn cael ei dangos yn Ystafell 3, ochr yn ochr â detholiad o wrthrychau sy’n ymddangos ynddi.
Mae’r ffilm yn dilyn arddull adnabyddus yr artist o gyfuno cynhyrchiad sinematig o safon uchel â golygfeydd pob dydd i arddangos hobïau byrhoedlog a gwrthrychau o waith llaw mewn iaith weledol sydd fel arfer yn nodweddiadol mewn ffilmiau Hollywood ac mewn hysbysebion moethus.
Yn yr arddangosfa bydd cyfle hefyd i weld gwrthrychau o gasgliad parhaol Glynn Vivian nad ydynt yn cael eu cyflwyno’n aml, gan gynnwys portreadau bach gan Thyrza Anne Leyshon a blychau snisin siâp cŵn smwt a gasglwyd gan sylfaenydd yr oriel, Richard Glynn Vivian.
Meddai Hetain Patel,
“Mae elfen o fregrusrwydd wrth rannu rhywbeth mor bersonol – sy’n digwydd yn aml mewn mannau preifat o gwmpas cyfrifoldebau bywyd dyddiol. Ond mae nerth aruthrol hefyd drwy rannu ar y cyd, sydd wrth wraidd y prosiect hwn. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn ymuno â ni fel rhan o’r dathliad hwn o hunanfynegiant diatal sy’n cael ei gyfleu drwy ein hobïau.”
Ychwanegodd Karen Mackinnon, curadur Oriel Gelf Glynn Vivian,
“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect cenedlaethol hwn sy’n dathlu hobïau’r genedl. Mae’n brosiect unigryw ac ysbrydoledig sy’n dathlu’r holl bethau hyfryd y mae pobl yn eu creu!”
Bydd rhaglen gyhoeddus ar y cyd â’r arddangosfa a fydd yn cynnwys sgyrsiau, digwyddiadau, perfformiadau a gweithdai a gynhelir o fis Chwefror i fis Ebrill 2025.Ewch i www.glynnvivian.co.uk i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen.
Wedi’i gomisiynu a’i gynhyrchu gan Artangel. Mae partneriaid cenedlaethol yn cynnwys Factory International, Manceinion; Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; Oriel Gelf ‘The Grundy’, Blackpool; Museum of Making, Derby Museums Trust; National Festival of Making gydag Amgueddfa ag Oriel Gelf Blackburn; Oriel Gelf Wolverhampton, Barnsley Civic; Amgueddfa ac Oriel Gelf Inverness; Northern Gallery for Contemporary Art, Sunderland; CCA Derry~Londonderry; Hospitalfield, Arbroath a Tate St Ives.
Cefnogir gan y Guardian Angels. Gyda diolch i Creative Lives.