Mae The City Socials yn ddigwyddiad rheolaidd a gynhelir gan NTW TEAM. Maent yn ddigwyddiadau hwyliog a rhyngweithiol sydd wedi’u cynllunio i ddod ag artistiaid a gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y theatr ynghyd i sgwrsio, rhannu, cwyno a thraethu.

Wedi'i greu yn dilyn sgyrsiau gydag artistiaid o Gaerdydd, mae The City Socials yn ymateb i'r angen i gryfhau rhwydweithiau. Anogir artistiaid a gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y theatr i rannu llwyddiannau a brwydrau adeiladu gyrfa yn y celfyddydau a dod i adnabod eu cyd-gymuned. Drwy gydol y noson, bydd cyfleoedd i rwydweithio a gweithdai hamddenol.

Fel rhan o’r digwyddiadau, mae NTW TEAM wedi comisiynu pedwar artist i gynnal cyfnod preswyl ym mhob un o leoliadau City Social ac archwilio gwaith newydd sy’n frys, yn gyffrous ac yn gydweithredol.

Yn dilyn y digwyddiad lansio ar 15 Awst, bydd perfformiadau newydd hefyd fel rhan o'r pedwar City Socials nesaf.

Drwy’r cyfnodau preswyl hyn, rydym yn cefnogi artistiaid i archwilio a chreu gwaith newydd ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghaerdydd. Nod y fformat yw poblogi rhannau unigryw o'r ddinas sy'n gysylltiedig â'r gwaith sy'n cael ei wneud ynddynt.

Rydym yn cefnogi’r artistiaid dethol gyda:

  • £2,000 o gyllid egin gomisiwn (ar gyfer y cyfnod preswyl o bythefnos a pherfformiad y noson o'r newydd)
  • Mentoriaeth gan unigolion a ddewiswyd yn arbennig
  • 10 diwrnod o le i ymarfer ac archwilio syniadau yng Nghaerdydd
  • Cymorth cynhyrchu ar gyfer y rhannu cyhoeddus o'r newydd fel rhan o The City Socials
  • Cymorth mynediad (hyd at £680 y comisiwn) 

Yr artistiaid preswyl 

Bydd yr awdur a'r perfformiwr amlddisgyblaethol, Leila Navabi yn datblygu darn o theatr sy’n tynnu ar ei phrofiad personol o genhedlu plentyn gyda’i phartner gan ddefnyddio rhoddwr sberm hysbys sy’n un o’u ffrindiau gorau. Meddai:

“Rwyf wrth fy modd i fod yn gweithio gyda NTW i ddatblygu fy awr gyntaf unigol nesaf, Relay (teitl dros dro). Mae'r stori hon nid yn unig yn bersonol ond hefyd yn groestoriadol ac yn arbennig o Gymreig. Mae Relay yn archwilio themâu teulu cwiar, hunaniaeth Gymreig, cwiarffobia mewn gofal iechyd, a rhamant cwiar.”

Bydd yr artist Kyle Legall yn gweithio gydag actorion ar ddatblygu Somewhere Over the Bay Bro sy'n archwilio'r hanesyddol yn dod yn ôl yn fyw mewn taith gerdded i lawr Stryd Bute. Bydd y daith glywedol hon yn adrodd stori ffantasi yn seiliedig ar ffeithiau hanesyddol a chwedlau ar y strydoedd lle digwyddodd y stori. Meddai:

“Bydd y prosiect hwn yn hyrwyddo talent leol. Mae Butetown yn enghraifft falch o le sydd wedi mynd y tu hwnt i raniadau hil, mae'n gynrychiolaeth o gydraddoldeb, sydd wedi bodoli ers canrifoedd, gyda llawer o hiliau a chrefyddau yn byw ochr yn ochr. Nod y prosiect yw derbyn Butetown ar ôl y boneddigeiddio ac adrodd stori’r presennol, y dyfodol a’r gorffennol, fel bod modd cydnabod, gwerthfawrogi a dathlu pwy sydd yma o hyd.”

Bydd y cyfarwyddwr theatr a ffilm, awdur a dramaydd, Paul Koloman Kaiba yn datblygu darn o theatr sy'n canolbwyntio ar ddau naratif cyfochrog i amlygu'r cysylltiad hanesyddol rhwng y dosbarth gweithiol Cymreig a'u cymheiriaid yn yr Wcrain. Meddai:

Mae “Hughesovka (teitl dros dro) yn ddarn o theatr ddyfeisiedig sy’n archwilio gobaith, dianc, ailadeiladu, a chymuned, ac un yr wyf wrth fy modd yn gweithio arno gyda chymorth National Theatre Wales.”

Bydd y gwneuthurwr theatr, Jesse Briton yn gweithio gyda Hong Kongers Caerdydd i ddatblygu Marginal Worlds (teitl dros dro) yn archwilio alltudion gyfoes Hong Kong Caerdydd. Meddai: 

“Allwn i ddim bod yn fwy cyffrous i weithio gyda Hong Kongers Caerdydd a'n hartistiaid cydweithredol o Hong Kong. Mae'n gyfle i archwilio rhan o'n hanes cyffredin sy'n cael ei hanwybyddu'n aml ac sy'n cael effaith gyfoes go iawn. Diolch o galon i'm hen ffrindiau NTW, a Chyngor Caerdydd, am ganiatáu i ni fynd ar yr antur hon.”

Meddai Justin Teddy Cliffe, Cydymaith Creadigol National Theatre Wales:

“Rydym yn llawn cyffro i fod yn cefnogi'r artistiaid hyn i archwilio a chreu gwaith newydd. Rydyn ni'n meddwl bod eu syniadau'n creu gofod ar gyfer sgwrsio a myfyrio angenrheidiol. Gyda phob un yn caniatáu i ni ganolbwyntio ar Gaerdydd fel dinas fyd-eang-hyper-leol, sydd â chysylltiad cynhenid â gweddill y byd. Yn archwilio ail-leoli, argyfwng, hunaniaeth, bywyd newydd a’r angen am gymuned.”

Nodyn am National Theatre Wales

Wrth i ni weithio tuag at weledigaeth a dyfodol newydd, rydym yn parhau i gefnogi gwneuthurwyr theatr, artistiaid a phobl greadigol drwy raglenni NTW TEAM a gefnogir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd.

As well as The City Socials, this activity includes the launch of new NTW TEAM initiatives Young Collective and TEAM Collective.

___

Cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chydymaith Creadigol NTW, Justin Teddy Cliffe yn justincliffe@nationaltheatrewales.org

Amseroedd a dyddiadau digwyddiadau

  • Dydd Iau 15 Awst - Parti lansio The City Social yn The Sustainable Studio, Caerdydd
  • Dydd Iau 26 Medi - The City Social gyda pherfformiad newydd gan Leila Navabi yn The Sustainable Studio, Caerdydd
  • Dydd Iau 24 Hyd - The City Social gyda pherfformiad newydd gan Kyle Legall yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd, Caerdydd
  • Dydd Iau 21 Tach - The City Social gyda pherfformiad newydd gan Paul Solomon Kaiba yn Porter's, Caerdydd
  • Dydd Iau 5 Rhag - The City Social gyda pherfformiad newydd gan Jesse Briton a Hong Kongers Caerdydd yn The Sustainable Studio, Caerdydd

Gwybodaeth ychwanegol

Mynediad

Bydd pob lleoliad yn hygyrch i gadeiriau olwyn.

Rydym yn croesawu gweithwyr llawrydd newydd ac artistiaid o bob math ar ddechrau eu gyrfa. Os oes angen cymorth arnoch i fynychu ee dehongli BSL, gofal plant neu gostau teithio, cysylltwch â Justin, ein Cydymaith Creadigol yn justincliffe@nationaltheatrewales.org.